Sir Benfro: Cais wedi'i gyflwyno ar gyfer cynllun amddiffyn gyda’r Unol Daleithiau
Mae cais swyddogol wedi'i gyflwyno ar gyfer cynllun amddiffyn gyda’r Unol Daleithiau yn Sir Benfro.
Fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2024 y byddai Barics Cawdor yn Sir Benfro yn gartref i gynllun DARC (Deep Space Advanced Radar Capability).
Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw codi cyfanswm o 27 o ddysglau radar ar y safle.
Bellach mae cynllun swyddogol wedi'i gyflwyno i'r cyngor, sydd yn dweud y byddai'r cynllun yn creu 90 o swyddi llawn amser wrth adeiladu'r safle, a 60 swydd llawn amser pan fydd DARC yn weithredol.
Bydd rhaglen DARC yn golygu datblygu rhwydwaith o safleoedd radar yn Awstralia, yr Unol Daleithiau a’r DU i ddarparu monitro byd-eang o’r awyr, gan gynyddu gallu gwledydd Aukus i olrhain gwrthrychau yn y gofod.
O dan y cynlluniau, bydd safle Barics Cawdor yn Sir Benfro, a oedd i fod i gau erbyn 2028 yn wreiddiol, yn cael eu hadnewyddu i wneud lle i DARC.
Roedd wedi bod yn orsaf hedfan yr Awyrlu Brenhinol ac yn ganolfan i'r Llynges Frenhinol.
Mae’r cynlluniau wedi derbyn rywfaint o wrthwynebiad yn lleol, gan gynnwys gan CND Cymru.
'Canfod bygythiadau'
Pe bai'r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, y safle yn Sir Benfro fyddai prif gyfraniad y DU i gynllun DARC.
Roedd datganiad i gefnogi'r cais yn dweud bod DARC yn gallu "ehangu gallu'r DU i ganfod bygythiadau posibl" yn y gofod.
"Bydd DARC yn ehangu gallu'r DU i ddod o hyd i, ac olrhain gwrthrychau yn orbit y Ddaear, gan gynnwys lloerennau, malurion gofod a bygythiadau posibl.
"Fe fydd yn hanfodol i alluogi'r DU i gynnal sefydlogrwydd a darparu gwybodaeth ar gyfer rheoli heriau.
"Yn y bôn, mae'r prosiect yn ffurfio safle allweddol a fydd yn cefnogi rheoli traffig gofod rhyngwladol ehangach ac yn gwella diogelwch rhyngwladol ar y cyd."
Ychwanegodd y datganiad y byddai'r DU mewn perygl o "golli mynediad at wasanaethau hanfodol" a fydd yn cael "goblygiadau difrifol i ddiogelwch cenedlaethol a diogelwch y cyhoedd."