'Pwysig' creu 'gofod' i Gymry Cymraeg creadigol yn yr oes ddigidol
Mae Cadeirydd ac is-gadeirydd newydd cwmni PYST Cyf wedi dweud eu bod yn benderfynol o greu “gofod” i Gymry Cymraeg creadigol yn yr oes ddigidol.
O fis Tachwedd fe fydd Emily Roberts yn dechrau yn ei rôl fel Cadeirydd y cwmni – sy’n gyfrifol am wefan Am a gwasanaeth PYST – a hynny gyda chymorth Malachy Edwards fel yr is-gadeirydd cyntaf yno.
Mae gwefan Am yn cael ei ddisgrifio fel ‘cartref digidol diwylliant Cymru’. Gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo ar gyfer labeli cerddoriaeth annibynnol yng Nghymru yw PYST.
Wrth iddyn nhw gamu i’r adwy, mae Ms Roberts a Mr Edwards wedi dweud eu bod yn awyddus i feithrin cysylltiadau a chreu “cymuned” i artistiaid, cerddorion a phobl yn y sector creadigol yng Nghymru.
Mae Ms Roberts yn gweithio fel rheolwr ymgysylltu a sgiliau i gwmni M-SParc. Mae hefyd yn gyfrifol am arwain y gwaith sgiliau yn ysgolion ar hyd Conwy, Gwynedd a Môn.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi’n meddwl bod e’n hynod bwysig fod 'na un lle ble mae popeth ar gael yn yr iaith Cymraeg.
“Ond hefyd lle mae artistiaid newydd a phobl newydd i’r sector sy’n meddwl, ‘Sut dwi’n cael y’n enw allan ‘na?’
“Os ma’ nhw’n cystadlu mewn maes lle mae bob dim yn Saesneg neu Americanaidd fel mae o ddyddiau 'ma, maen nhw’n mynd ar goll.”
Mae’n dweud mai “cryfder” gwasanaethau Am a PYST yw sicrhau y gallai pobl “ffynnu” yn yr iaith Gymraeg drwy eu cysylltu gyda chynulleidfa Cymry Cymraeg hefyd.
'Mwy o greadigrwydd a chydweithio'
Mae PYST Cyf yn gwmni nid er elw sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy gorff Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards ei fod yn bwysig iddo allu helpu yn y broses o greu rhwydwaith i bobl yn y diwydiant.
“Mae’n bwysig bod diwylliant Cymru efo platfform digidol yn yr oes sydd ohoni,” meddai.
“Ni’n trio hybu mwy o greadigrwydd, mwy o gydweithio, a mwy o Gymry yn rhan o’r sgwrs ddiwylliannol – bod gynnon ni rywbeth yna i ddangos be’ ni’n medru gwneud.
“Mae’n bwysig bod pobl sy’n creu yn y Gymraeg, bod 'na blatfform iddyn nhw.
“Ond hefyd i’r bobl sydd eisiau gwylio a cysylltu efo cynnyrch Cymraeg eu hiaith, bod ‘na rywle iddyn nhw fynd hefyd.”
Mae Mr Edwards a Ms Roberts yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at gyrraedd cynulleidfaoedd newydd wrth i’r cwmni barhau i dyfu ers ei sefydlu bum mlynedd yn ôl.
Fe fydd Emily Roberts yn olynu Ffion Dafis, wedi i’w chyfnod fel Cadeirydd ddod i ben ar ôl tair blynedd.
Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf: “Mae penodiadau Emily a Malachy yn nodi cyfnod newydd a hynod gyffrous yn ein hanes a bydd eu harbenigedd, gweledigaeth ac egni arbennig yn allweddol wrth i ni ddatblygu strategaeth newydd i’r cwmni.”
