Newyddion S4C

'Trafodwch. Wedyn Mendio': Teulu'n erfyn am drafod iechyd meddwl wedi marwolaeth eu mab

10/10/2021
Twm Bryn

Mae teulu o Eifionydd sydd wedi colli mab o ganlyniad i hunanladdiad yn erfyn ar bobl i siarad yn agored am iechyd meddwl.

Bu farw Twm Bryn o Chwilog yn 21 oed wythnos diwethaf.

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Sul, mae ei fam yn dweud nad yw am i farwolaeth ei mab fod yn ofer.

Dywedodd Bethan Llwyd wrth Newyddion S4C: “Mae’n gadael andros o wacter mawr. Da ni jysd methu coelio bo ni ddim yn mynd i gael Twm eto. Bo ni ddim yn mynd i weld o, sgwrsio, chwerthin efo fo, cydlo fo, pob peth.

“Da ni’n ymwybodol chawn ni ddim Twm yn ôl, mae’n bywydau ni yn mynd i fod yn hollol wahanol. Ond mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth bod yr hogiau ifanc ‘ma, neu’r criw ifanc, yn diodda’.

“Mae’n bwysig bo ni’n bod yn fwy onast, yn fwy agorad a peidio neud stigma o iechyd meddwl. Peidio cuddiad oddi wrtha fo. Peidio meddwl bod o’n rywbath na ddyla chdi fod yn gallu siarad yn agorad efo pobl.

“Dwi’m isho gweld pobl ifanc, neu rywun, yn diodda mor unig ag oedd Twm wedi bod yn teimlo.”

Roedd Twm yn seiclwr brwd, a hefyd a’i fryd ar ffermio, yn ôl ei fam.

Mae’r teulu eisiau ddefnyddio enw eu mab i atgoffa pobl i siarad.

Dywedodd Bethan Llwyd: “TWM: – Trafodwch. Wedyn Mendio. Neu, Twm – Trafod Wbath, Met.”

Image
Twm Bryn
Mae teulu Twm eisiau annog pobl i siarad yn dilyn ei farwolaeth. (Llun teulu)

‘Ymddangos yn hapus’

Mae ei fam wedi ei ddisgrifio fel dyn ifanc cymdeithasol a meddylgar.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Oedd o’n berson fwya’ cymdeithasol, oedd o’n hwyliog, oedd o’n dynnwr coes. Oedd o’n ymddangos tu allan yn hapus, y clown mewn parti. Ond, oedd o’n feddylgar o bobl eraill hefyd.

“Trwy wythnos yma da ni wedi bod yn cael chwerthin am yr hen storis, sbio ar fideos, a mae’n rhoi cysur. Achos bod Twm wedi bod gymaint o glown bach, a dio otsh ym mha sefyllfa, oedd o’n trio rhoi ryw hwyl i bob peth.

“Dyna ma’ pobl erill yn gweld hi’n anodd sut bod y person yma oedd yn ymddangos yn llawn hwyl ac yn hapus – ond y gweithio caled ‘ma oedd o i roi y masg ymlaen pan oedd o allan.”

‘Bachgen talentog a llewyrchus’

Mae teyrngedau wedi ei rhoi i Twm Bryn yn dilyn ei farwolaeth.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Clwb Beicio Dwyfor: “Byddwn yn cofio am Twm fel bachgen talentog a llewyrchus iawn a fu’n cynrychioli’r Clwb yn rasio ledled y wlad yn erbyn y goreuon y gamp o’i oed.

“Roedd Twm yn fachgen poblogaidd gyda nifer o ffrindiau yn y Clwb. Roedd yn meddu personoliaeth hoffus, hwyliog ac annwyl iawn, llawn egni a gwên ddireidus.”

Dywedodd Clwb Beicio Egni mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol: “Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion am farwolaeth gynamserol Twm Bryn yn 21 Oed. Roedd yn aelod brwdfrydig o’r clwb am flynyddoedd a bu’n aelod poblogaidd o dîm rasio iau y clwb.

“Cofiwn am yr hwyl oedd i’w gael yn ei gwmni, a gwerthfawrogwn y pleser y cawsom i ddod i’w adnabod.”

'Rhannwch y baich'

Mae dydd Sul yn nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Amaethyddiaeth.

Mae Sefydliad DPJ, elusen sy’n arbenigo mewn rhoi cymorth iechyd meddwl o fewn y sector amaethyddol, yn annog pobl i siarad.

Mewn datganiad ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dywedodd yr elusen: “Nid yw iechyd meddwl yn gwahaniaethu, mae gennym ni gyd iechyd meddwl, a gallwn ni gyd gael ein heffeithio gydag iechyd meddwl gwael, ac mae gennym oll rôl i chwarae i wneud gwahaniaeth.

“Mae pob diwrnod yn ddiwrnod i feddwl am eich iechyd meddwl, mae heddiw yn gyfle i siarad am iechyd meddwl yn agored, i helpu i herio’r stigma a galluogi pobl i fod yn agored.

“Plîs, os ydych chi’n dioddef, yn teimlo’n isel neu os oes unrhyw beth yn eich poeni chi, os yw i wneud gyda ffermio, eich teulu, perthnasau, unigrwydd neu bwysau gwaith, peidiwch â bod â chywilydd i holi am help. Rydych chi’n bwysig, ac mae ‘na bobl sydd eisiau eich helpu chi. Rydym yma i helpu.”

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl yma, gallwch gysylltu â llinell Gymraeg y Samariaid ar 0808 164 0123.

Mae'r rhif yn rhad ac am ddim i'w ffonio ac mae'r llinell ar agor rhwng 19:00 ac 23:00 bob dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.