Newyddion S4C

Boris Johnson i wynebu cwestiynau ar safonau a thrais yn erbyn menywod

Evening Standard 17/11/2021
Boris Johnson

Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol ddydd Mawrth wrth i'r ffrae dros safonau ac ymddygiad Aelodau barhau.

Bydd Mr Johnson yn ymddangos o flaen Pwyllgor o gadeiryddion pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin i ateb cwestiynau ynghylch safonau llywodraeth, trais yn erbyn menywod, COP26 a'r Gyllideb.

Yn ôl The Evening Standard, y ffrae am ymchwiliad disgyblu'r cyn-Aelod Seneddol Owen Paterson ar ôl i ymchwiliad ddarganfod ei fod wedi lobïo "droeon", fydd prif ffocws y sesiwn.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher, cyfaddefodd Mr Johnson ei fod yn "gamgymeriad" i gamgymryd achos aelod unigol am gyflwyno newidiadau ehangach i broses apêl.

Bydd Mr Johnson hefyd yn wynebu cwestiwn gan yr AS Ceidwadol, Caroline Nokes, a ddywedodd wrth Sky News bod tad Boris Johnson, Stanley Johnson, wedi ei chyffwrdd mewn ffordd amhriodol mewn cynhadledd yn 2003.

Dydy'r Prif Weinidog heb fod o flaen pwyllgor o'r fath ers mis Gorffennaf.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.