Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mawrth, 12 Hydref.
Llywodraeth y DU wedi gwneud ‘gwallau difrifol’ wrth ddelio â’r pandemig, medd adroddiad
Fe gafodd miloedd o fywydau eu colli oherwydd oedi a chamgymeriadau ar ddechrau pandemig Covid-19 gan weinidogion a chynghorwyr gwyddonol, yn ôl adroddiad beirniadol gan ASau. Dywed yr adroddiad gan y Pwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwyddoniaeth a Thechnoleg bod cyfleoedd cynnar i oedi lledaeniad Covid-19 ym Mhrydain wedi eu colli, tra bod cyfnodau clo, profi a chynlluniau hunanynysu ar waith mewn gwledydd eraill.
Swyddi gwag yn y DU yn uwch nag erioed ym mis Medi
Fe gododd y nifer o swyddi gwag yn y DU i’r lefel uchaf erioed ym mis Medi, yn ôl ffigurau swyddogol. Daw hyn wrth i gyflogwyr geisio dod o hyd i staff gyda Brexit a’r pandemig wedi effeithio ar brinder gweithwyr.
Annog pobl i gymryd y trydydd brechlyn Covid-19 ar drothwy gaeaf ‘heriol’ i’r GIG
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi annog y rhai sy’n gymwys am y trydydd brechlyn Covid-19 i’w gymryd cyn “cyfnod heriol i’r GIG yng Nghymru”. Bydd y rhan fwyaf o’r rhai sy’n gymwys am y brechlyn atgyfnerthu wedi ei dderbyn erbyn 31 Rhagfyr 2021, yn ôl Eluned Morgan.
Prisiau ynni: disgwyl i Boris Johnson roi miliynau i gefnogi busnesau
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gefnogi cynlluniau i roi miliynau o bunnoedd i helpu diwydiannau sydd wedi’u heffeithio gan y cynnydd mewn prisiau nwy. Mae costau uchel ynni wedi arwain at bryderon y gallai busnesau gau eu ffatrïoedd neu fynd i’r wal ac mae’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng wedi gwneud cais ffurfiol i’r Trysorlys am gymorth i helpu busnesau dros y gaeaf.
Cabinet Cyngor Sir Powys i ystyried adroddiad gwrthwynebu newid statws iaith ysgol
Fe fydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn derbyn ac yn ystyried adroddiad sy’n gwrthwynebu newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen i uniaith Gymraeg ddydd Mawrth. Fe allai cynlluniau i newid categori iaith yr ysgol ym Machynlleth fod yr un cyntaf yn y sir pe byddai'r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo gan y cabinet yn hwyrach ym mis Hydref.