Newyddion S4C

Annog pobl i gymryd y trydydd brechlyn Covid-19 ar drothwy gaeaf ‘heriol’ i’r GIG

12/10/2021
S4C

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi annog y rhai sy’n gymwys am y trydydd brechlyn Covid-19 i’w gymryd cyn “cyfnod heriol i’r GIG yng Nghymru”.

Bydd y rhan fwyaf o’r rhai sy’n gymwys am y brechlyn atgyfnerthu wedi ei dderbyn erbyn 31 Rhagfyr 2021, yn ôl Eluned Morgan.

Erbyn 1 Tachwedd 2021, bydd pawb rhwng 12-15 oed wedi cael cynnig un dos o'r frechlyn, a bydd preswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd gofal wedi cael cynnig trydydd dos. 

Wrth gyhoeddi Strategaeth Frechu Covid-19 newydd y llywodraeth, cadarnhaodd y Farwnes Morgan bod cynlluniau ar waith i ddatblygu system apwyntiadau brechu ar-lein hefyd.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r llywodraeth ddarogan gaeaf “hynod o anodd i’r gwasanaeth iechyd”.

“Mae’n hanfodol bwysig fod pobl yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad Covid-19 a brechiad rhag y ffliw os ydyn nhw’n gymwys, er mwyn eu hamddiffyn nhw eu hunain a’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 2,229,956 wedi derbyn dau ddos o frechlyn Covid-19 yng Nghymru.

Mae hyn gyfystyr ag oddeutu 85% o’r boblogaeth dros 16 oed yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Eluned Morgan: "Nid oes unrhyw bryder ynghylch cyflenwadau unrhyw un o'r brechlynnau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cynigion i barhau i amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ogystal â’r Gwasanaeth Iechyd."

Dywedodd y bydd manteision rhoi trydydd dos i oedolion iau yn cael ei ystyried pan ddaw rhagor o wybodaeth i law.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.