Newyddion S4C

Cabinet Cyngor Powys yn pleidleisio o blaid newid statws iaith ysgol

12/10/2021
Ysgol Bro Hyddgen

Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio o blaid newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen i un uniaith Gymraeg.

Cafodd y bleidlais ei chynnal mewn cyfarfod ddydd Mawrth, lle bu'r cabinet yn ystyried adroddiad sy'n gwrthwynebu newid statws iaith yr ysgol.

Mae'r cynllun i newid categori iaith yr ysgol ym Machynlleth yr un cyntaf o'i fath yn y sir. 

Bydd y newid yn dod i rym yn raddol, gan ddechrau gyda'r dosbarth derbyn ym mis Medi 2022. 

Mae’r cynllun wedi bod yn un dadleuol gyda rhai o bobl yr ardal o'r farn fod y system bresennol yn fwy cynhwysol.

Ar hyn o bryd, mae’n ysgol dwy ffrwd sy'n darparu addysg cyfrwng Saesneg a Chymraeg i ddisgyblion pedair i ddeunaw oed.

Yn gynharach eleni, rhoddodd y Cabinet sêl bendith i gyhoeddi’n ffurfiol hysbysiad statudol yn cynnig y newid ym mis Mehefin.

Ni fydd y newidiadau’n effeithio ar y disgyblion hynny sydd eisoes yn yr ysgol, a bydd disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy’r Saesneg ar hyn o bryd yn gallu parhau i wneud hynny nes iddyn nhw adael.

Yn ystod y cyfnod rhybudd statudol, derbyniwyd 258 o wrthwynebiadau.

Cyn dod i'r penderfyniad, dywedodd Cyngor Sir Powys, fe fydd cynnig newid y ddarpariaeth iaith yn “sicrhau bod pob disgybl sy'n mynychu'r ysgol yn dod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg”.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: “Byddai symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith yn ein helpu i gyflawni nodau ac amcanion ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

“Byddai hefyd yn sicrhau bod pob disgybl sy'n mynychu'r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddai hyn yn ei dro’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.