Nifer y swyddi gwag yn y DU yn uwch nag erioed ym mis Medi
12/10/2021
Fe gododd y nifer o swyddi gwag yn y DU i’r lefel uchaf erioed ym mis Medi, yn ôl ffigurau swyddogol.
Daw hyn wrth i gyflogwyr geisio dod o hyd i staff gyda Brexit a’r pandemig wedi effeithio ar brinder gweithwyr.
Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd 1.2m o swyddi gwag ym Mhrydain ym mis Medi.
Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos bod cynnydd o 207,000 yn y nifer y bobl ar gyflogresi ym mis Medi, gan gyrraedd y nifer uchaf erioed o 29.2m, sy’n 120,000 yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd cwymp serth mewn diweithdra cyn i’r cynllun ffyrlo ddod i ben ddiwedd mis Medi hefyd, yn ôl The Guardian.
Darllenwch y stori’n llawn yma.