Newyddion S4C

Llywodraeth San Steffan wedi gwneud ‘gwallau difrifol’ wrth ddelio â’r pandemig medd adroddiad

Sky News 12/10/2021
Ysbyty yn brwydro yn erbyn Covid-19

Fe gafodd miloedd o fywydau eu colli oherwydd oedi a chamgymeriadau ar ddechrau pandemig Covid-19 gan weinidogion a chynghorwyr gwyddonol, yn ôl adroddiad beirniadol gan ASau.

Dywed yr adroddiad gan y Pwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwyddoniaeth a Thechnoleg bod cyfleoedd cynnar i oedi lledaeniad Covid-19 ym Mhrydain wedi eu colli, tra bod cyfnodau clo, profi a chynlluniau hunanynysu ar waith mewn gwledydd eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod gweinidogion "wedi eu harwain gan arbenigwyr gwyddonol a meddygol" drwy gydol y pandemig.

Ymhlith rhai o brif ganfyddiadau’r adroddiad mae'r canlynol:

  • Roedd hi’n “wall cynnar difrifol” i beidio mynd i gyfnod clo yn gynt
  • Roedd y penderfyniad i beidio cynnig profion Covid-19 i’r gymuned yn gynnar yn gamgymeriad a “gostiodd nifer o fywydau”
  • Roedd methu â blaenoriaethu gofal cymdeithasol a rhyddhau pobl o ysbytai i gartrefi gofal wedi “arwain at filoedd o farwolaethau”
  • Roedd angen rheolau cadarn ar ffiniau yn gynt
  • Roedd “diffygion difrifol” mewn cyfathrebu o fewn y llywodraeth a rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol

Yn ôl ASau, mae’r “penderfyniadau ar gyfnod clo a phellter cymdeithasol yn ystod wythnosau cynnar y pandemig – a’r cyngor a arweiniodd atynt – yn un o’r methiannau iechyd cyhoeddus pwysicaf y mae’r Deyrnas Unedig erioed wedi’u profi”.

Gyda dros 135,000 o farwolaethau, y DU sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 oni bai am un wlad o fewn Ewrop, sef Rwsia, yn ôl Sky News.

Fe gafodd dros 50 o dystion eu cyfweld ar gyfer yr adroddiad, gan gynnwys y cyn ysgrifennydd iechyd Matt Hancock, y Prif Wyddonydd Syr Patrick Vallance, y Prif Swyddog Meddygol yr Athro Chris Whitty a chyn gynghorydd Rhif 10 Downing Street, Dominic Cummings.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ran Llywodraeth San Steffan: "Trwy gydol y pandemig, rydym wedi cael ein harwain gan arbenigwyr gwyddonol a meddygol ac ni wnaethom erioed wyro rhag cymryd camau cyflym a phendant.

"Fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym yn benderfynol o ddysgu gwersi gan y pandemig ac wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad cyhoeddus yn y gwanwyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae adroddiad heddiw yn ymwneud ag ymateb Llywodraeth y DU i’r pandemig a’r penderfyniadau a wnaed i warchod pobl yn Lloegr.”

“Dydy e [yr adroddiad] ddim yn archwilio’r penderfyniadau a wnaed gan unrhyw un o’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.”

Ychwanegodd y llefarydd bod y Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi “ei gwneud hi’n glir y dylai unrhyw ymchwiliad o’r DU ganolbwyntio’n llawn ar bob penderfyniad a gafodd ei wneud yng Nghymru.

“Ein cyfrifoldeb ni yw pobl Cymru a gwarchod bywydau a bywoliaeth pobl. Rydym wedi dilyn cyngor gan ein cynghorwyr meddygol a gwyddonol ac wedi ymateb yn fwy gofalus,” ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, fod yr adroddiad yn “sobreiddiol, damniol," ac "anfaddeuol”.

"Mae'r adroddiad hwn yn datgelu’r anghyfrifoldeb sydd wrth wraidd Llywodraeth San Steffan a arweiniodd at ddegau o filoedd o fywydau coll yn un o'r methiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf erioed a welwyd gan y DU," dywedodd. 

"Yn rhy araf i ymateb, yn rhy hwyr i gloi i lawr, ac yn rhy drahaus i ddysgu o wledydd sydd â mwy o arbenigedd, rhaid i’r adroddiad hwn roi diwedd ar y gred gan wleidyddion San Steffan eu bod rywsut yn unigryw yn y byd.

"Yn y cyfamser, gyda dim ond 9 cyfeiriad at Gymru yn yr adroddiad 147 tudalen, mae Cymru wedi cael ein neilltuo i’r troednodiadau.

"Mae’n bwysicach felly fwy nag erioed ein bod yn cael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru yn unig i drin y pandemig. Ni allwn setlo am ddim ond pennod mewn ymchwiliad ledled y DU."

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.