Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Iau, 30 Medi, o Gymru a thu hwnt.
Cynllun cefnogaeth ffyrlo i weithwyr yn dod i ben
Bydd y cynllun ffyrlo yn dod i ben yn gyfan gwbl ddydd Iau. Cafodd y cynllun ei gyflwyno fis Mawrth 2020 pan fu’n rhaid i nifer o fusnesau gau oherwydd Covid-19. Mae dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo yn ystod y pandemig.
Disgwyl dedfryd o garchar am oes i lofrudd Sarah Everard
Fe allai’r cyn heddwas a herwgipiodd menyw 33 oed cyn ei threisio a’i chrogi wynebu carchar am oes pan gaiff ei ddedfrydu ddydd Iau. Yn ôl Sky News, defnyddiodd Wayne Couzens, 48, ei gerdyn gwarant Heddlu’r Met a chyffion dwylo i gipio Sarah Everard yn Ne Llundain ar 3 Mawrth. Dywedodd yr erlynydd Tom Little QC bod yr achos “mor eithriadol a digynsail y gallai warantu carchar am oes gyfan.”
Ryan Giggs 'ar gyflog llawn' fel rheolwr Cymru ers cael ei arestio y llynedd
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Noel Mooney wedi cadarnhau bod Ryan Giggs yn dal “ar gyflog llawn” fel rheolwr Cymru ers cael ei arestio ym mis Tachwedd 2020. Yn ôl The Sun, mae lle i gredu bod Giggs yn dal i fod yn ennill £400,000 y flwyddyn er iddo fod i ffwrdd o’i rôl ers cael ei arestio.
Cadeirydd S4C: ‘Mae'n rhaid i ni roi’r gore i gomisiynu cynnwys i lenwi twll’
Mae cadeirydd S4C, Rhodri Williams, wedi dweud bod angen i’r sianel addasu er mwyn cystadlu gydag eraill yn y byd digidol. Mewn cyfweliad â Guto Harri ar raglen Y Byd yn ei Le, dywedodd Mr Williams bod angen i S4C newid o fod yn sianel luniol i wasanaeth “sydd yn darparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau”. Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ail-drefnu ei gabinet ym mis Medi, gan benodi Nadine Dorries fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant.
Bachgen 11 oed wedi ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i fachgen 11 oed gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5119 yn Sir y Fflint. Cafodd y bachgen, oedd yn cerdded ar droed ar y pryd, ei gludo i’r ysbyty gan swyddogion yr heddlu a doctor ar ôl y gwrthdrawiad gyda char tua 15:50 ddydd Mercher.