Newyddion S4C

Cadeirydd S4C: ‘Mae'n rhaid i ni roi’r gore i gomisiynu cynnwys i lenwi twll’

30/09/2021

Cadeirydd S4C: ‘Mae'n rhaid i ni roi’r gore i gomisiynu cynnwys i lenwi twll’

Mae cadeirydd S4C, Rhodri Williams, wedi dweud bod angen i’r sianel addasu er mwyn cystadlu gydag eraill yn y byd digidol.

Mewn cyfweliad â Guto Harri ar raglen Y Byd yn ei Le, dywedodd Mr Williams bod angen i S4C newid o fod yn sianel luniol i wasanaeth “sydd yn darparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau”.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ail-drefnu ei gabinet ym mis Medi, gan benodi Nadine Dorries fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn lle Oliver Dowden.

Dywedodd y cadeirydd bod y cyfle wedi dod i’r sianel ail-ystyried “yr hyn [mae’n] ei wneud”.

“Mae’r diwydiant wedi newid yn gyfan gwbl,” dywedodd Rhodri Williams.

“Mae ymddygiad gwylwyr wedi newid yn gyfan gwbl.

“[Dyw’r sianel ddim wedi newid] yn ddigon cloi a ddim yn ddigon pell.

“Mae yna nifer o resymau am hynny ond y pwynt pwysig yw nawr yw’r cyfle – ac mae ‘na gyfle fan hyn, mae’n rhaid troi o feddwl am yr hyn i ni’n neud.

“Nid sianel ‘mohoni bellach. Gwasanaeth sydd yn darparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau.”

Gwnaeth Rhodri Williams sylwadau am yr angen i wneud y newidiadau ar gyfer y sianel yn sydyn.

“Un o fanteision y byd digidol yw eich bod yn gallu deall mwy am eich cynulleidfa na’r bocsys digidol,” eglurodd.

“I ni yn symud i hynny, ac i ni’n symud i hynny’n gloi," ychwanegodd.

“Dwi’n credu, a dwi wedi dweud o’r blaen, ein bod ni ar ei hôl hi, yn sicr o’i gymharu â BBC, lle oedd John Birt yn dweud blynyddoedd yn ôl bod y BBC yn newid i fod yn ddigidol.

“A dyna’r her ond dyna hefyd y cyfle.”

“Dwi’n credu dal at y syniad yma o gynnal sianel linol o gynnar yn y bore tan yn hwyr yn nos, ac yn comisiynu cynnwys a peth ohono fe yn llenwi twll.

“Mae rhaid i ni roi’r gore i gomisiynu cynnwys i lenwi twll," dywedodd.

“Mae rhaid i ni greu cynnwys mae pobl am i weld. Ac mae rhaid i ni ddeall yn well beth yw anghenion ein cynulleidfa ni – ddim dim ond y bobol, y gynulleidfa ffyddlon ‘na, ond hefyd y bobol sydd ddim yn edrych.”

Ychwanegodd Mr Williams nad oedd wedi cwrdd â Nadine Dorries eto, ond ei fod yn hyderus fod S4C wedi cyflwyno “cais cryf a chredadwy”.

“Mae ‘na gefnogaeth wleidyddol eang i S4C a’r hyn rydym yn ei wneud,” meddai.

“Allai’m deud eu bod hi’n mynd i fod yn hael, ond dwi’n dawel hyderus bod ni wedi gwneud yr achos i gyfiawnhau’r arian fydd yn caniatáu i ni wneud y pethe’ hynny ‘da ni heb wneud yn y gorffennol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.