Disgwyl dedfryd o garchar am oes i lofrudd Sarah Everard
30/09/2021
Fe allai’r cyn heddwas a herwgipiodd menyw 33 oed cyn ei threisio a’i chrogi wynebu carchar am oes pan gaiff ei ddedfrydu ddydd Iau.
Yn ôl Sky News, defnyddiodd Wayne Couzens, 48, ei gerdyn gwarant Heddlu’r Met a chyffion dwylo i gipio Sarah Everard yn Ne Llundain ar 3 Mawrth.
Clywodd y llys ddydd Mercher bod Ms Everard wedi cael ei rhoi yng ngherbyd Couzens, a’i gyrru allan o’r ddinas, cyn iddi gael ei threisio, ei chrogi a'i llosgi.
Dywedodd yr erlynydd Tom Little QC bod yr achos “mor eithriadol a digynsail y gallai warantu carchar am oes gyfan.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.