Bachgen 11 oed wedi ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i fachgen 11 oed gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5119 yn Sir y Fflint.
Cafodd y bachgen, oedd yn cerdded ar droed ar y pryd, ei gludo i’r ysbyty gan swyddogion yr heddlu a doctor ar ôl y gwrthdrawiad gyda char tua 15:50 ddydd Mercher.
Yn ôl yr heddlu, daeth gwasanaethau brys i’r digwyddiad ynghyd â gweithwyr yr ambiwlans awyr.
Mae PC Owain Lewis o Uned Blismona’r Ffyrdd wedi gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â’r heddlu.
Ychwanegodd: “Dw i’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A5119 o gwmpas adeg y gwrthdrawiad, ac sydd â deunydd fideo dash-cam i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu trwy ddefnyddio cyfeirnod Z143778.