'Gwthio i'r ymylon': Cymdeithas yr Iaith yn pryderu am ddyfodol S4C Clic
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon am ddyfodol gwasanaeth digidol S4C Clic.
Yn ôl y grŵp ymgyrchu, mae cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth ganddyn nhw i S4C a'r BBC yn "awgrymu gwthio llwyfan digidol annibynnol y darlledwr Cymraeg i'r ymylon."
Mae S4C yn gwrthod hynny, gan ddweud bod "S4C Clic yn parhau i fod yn flaenoriaeth" ac mai "pwrpas ein strategaeth ddigidol yn gyntaf yw denu mwy o wylwyr at gynnwys Cymraeg S4C."
Daw'r pryderon yn dilyn cytundeb partneriaeth rhwng S4C a'r BBC yn gynharach eleni, sy'n rhoi lle mwy blaenllaw i gynnwys S4C ar wasanaeth digidol iPlayer.
Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, mae nifer y gwylwyr misol sy'n gwylio S4C drwy iPlayer wedi cynyddu 25% ers y cytundeb, o 200,000 i 250,000.
25,700 o ddefnyddwyr misol oedd gan wasanaeth S4C Clic y llynedd, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf S4C.
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n bwysig yn y dyfodol bod S4C yn deall potensial Clic i ddatblygu algorithm o blaid y Gymraeg - un o'r ychydig rai sydd yn - a fel ffordd o ddeall patrymau gwylio.
"Os ydyn ni'n rhoi ap gwahanol o flaen ein plant a'n teuluoedd, mae 'na duedd at ieithoedd eraill - Saesneg yn benodol.
"Rydyn ni'n pryderu yn fawr am yr hyn rydyn ni wedi ei weld yn y ceisiadau rhyddid gwybodaeth o ran y sgwrs am ddyrchafu iPlayer uwchben Clic fel y prif wasanaeth ar alw mae S4C yn hyrwyddo."
Mae'r ymgyrchwyr yn cyfeirio at gymalau mewn dogfennau, gan gynnwys un sy'n nodi: "Fan lleiaf, cyn gwneud iPlayer yn brif BVoD (darlledwr fideo ar alw), byddai'n rhaid cael y nodweddion ychwanegol yma mae S4C Clic yn ei ddarparu ar hyn o bryd".
Yn ôl yr Athro Jamie Medhurst, sydd yn arbenigwr ar astudiaethau ffilm, theatr a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae yna wasgfa fawr ar ddarlledwyr cyhoeddus ym Mhrydain ac ar draws y byd, sydd bellach yn cystadlu â chwmnïau mawr fel Netflix, Amazon a Disney:
"Mae'n rhaid derbyn, o ran gwylwyr sy'n gwylio BVoD, broadcast video on demand, mai at iPlayer mae pobl yn mynd a ddim gymaint at Clic.
"Felly mae 'na benderfyniad ar sail y dystiolaeth, mae'n siŵr, sydd gan S4C, eu bod nhw'n rhan o'r iPlayer - yn rhan weladwy o rywbeth mawr - er mwyn cystadlu â'r cwmnïau mawr yma."
Mewn datganiad, dywedodd Geraint Evans, prif weithredwr S4C, mai pwrpas strategaeth ddigidol y sianel yw denu mwy o wylwyr at gynnwys Cymraeg.
“Os yw’r Gymraeg i ffynnu, mae’n rhaid iddi gael ei gweld a’i chlywed ar y platfformau mwyaf poblogaidd lle mae cynulleidfaoedd yn byw a bod. A phwrpas ein strategaeth ddigidol yn gyntaf yw denu mwy o wylwyr at gynnwys Cymraeg S4C.
"Nod y bartneriaeth gyda BBC iPlayer yw gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg ar un o’r platfformau gwylio mwyaf poblogaidd yn y DU."
Ychwanegodd: "Does dim amheuaeth fod S4C Clic yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel darlledwr, gyda'r gwasanaeth wedi lansio yn yr wythnosau diwethaf ar Google TV ac Android TV.
"Daw hynny yn sgil y buddsoddiad sylweddol sy’n cael ei wneud o hyd i gynnal a datblygu S4C Clic ac i sicrhau ei fod ar gael ar ragor o blatfformau teledu.”
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC fod y gorfforaeth yn "falch iawn o'i phartneriaeth ag S4C er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt yn gallu cael mynediad at gynnwys Cymraeg."
"Mae trafodaethau rheolaidd rhwng y BBC a S4C yn rhan gwbl arferol o ddatblygu'r bartneriaeth honno gyda’r nod o’i gwneud yn haws i gynulleidfaoedd ddarganfod a defnyddio cynnwys Cymraeg.
"Nid ydym yn derbyn yr awgrym bod y gwaith hwn yn tanseilio annibyniaeth ddigidol S4C. Mae unrhyw benderfyniadau ynghylch Clic yn fater i S4C."