Newyddion S4C

Cynllun cefnogaeth ffyrlo i weithwyr yn dod i ben

Chefs

Bydd y cynllun ffyrlo yn dod i ben yn gyfan gwbl ddydd Iau.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno fis Mawrth 2020 pan fu’n rhaid i nifer o fusnesau gau oherwydd Covid-19.

Mae dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo yn ystod y pandemig.

Fe ddechreuodd y cynllun gyda Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflogau, ond mae cyfraniadau cyflogwyr wedi codi wrth i’r cyfyngiadau lacio.

Erbyn mis Medi 2021, 60% oedd yn cael ei gyfrannu gan y llywodraeth, gyda’r disgwyl i gyflogwyr gyfrannu 20%.

Y celfyddydau, adloniant a hamdden, sector bwyd a lletygarwch sydd ymysg y sectorau sydd â’r cyfraddau uchaf o weithwyr ar y cynllun.

Mae dros 11.6m o swyddi wedi eu rhoi ar ffyrlo yn ystod bodolaeth y cynllun, ac erbyn Mai 2020, roedd naw miliwn o bobl ar ffyrlo.

Erbyn Gorffennaf 2021, roedd 1.6m o bobl yn parhau ar y cynllun, gostyngiad bychan ers mis Mehefin, lle'r oedd 1.9 miliwn ar ffyrlo.

O ganlyniad, mae undebau megis Unite wedi galw ar Lywodraeth y DU i barhau â’r cynllun, wrth i rai gwmnïau wynebu heriau’r pandemig.

Dywedodd Unite fod angen “addasu’r cynllun” er mwyn cefnogi teuluoedd ac osgoi argyfwng diwethdra.

“Pan wnaethom ni drafod cynllun ffyrlo, dywedais wrth y llywodraeth y byddai’n profi ei werth drwy amddifyn swyddi, incwm a sgiliau – yn enwedig ar gyfer sectorau strategol fel gweithgynhyrchu,” dywedodd Steve Turner, ysgrifennydd cyffredinol a chynorthwyol Unite.

“Er mwyn lles gweithwyr, mae’n well ein bod ni’n wynebu rhai argyfyngau dros dro, gostyngiad yn y galw a thrawsnewid technoleg fel yr ydym yn ei weld nawr yn hytrach na’u colli nhw’n gyfan gwbl.

“Dydy’r pandemig ddim ar ben eto a fe all yr hydref weld cynnydd mewn achosion a phroblemau pellach.”

Image
Rishi Sunak
Mae’r Canghellor Rishi Sunak yn dweud fe fydd y ‘Cynllun am Waith’ yn parhau i gefnogi pobl yn y DU gyda’u swyddi. [Llun: Rhif 10, Flickr].

Wrth i’r cynllun ddod i ben, mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi canmol gweithwyr Cymru am fod yn benderfynol a gwydn.

“Gyda’r adferiad wedi hen ddechrau a mwy nag un miliwn o swyddi gwag yn y Deyrnas Unedig, nawr yw’r cyfnod i’r cynllun ddirwyn i ben,” meddai.

“Nid yw hynny, mewn unrhyw ffordd, yn golygu diwedd cefnogaeth Llywodraeth y DU yng Nghymru.

“Mae ein ‘Cynllun am Waith’ yn helpu pobl i mewn i waith ac yn sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi yn y dyfodol.”

Yn ôl Llywodraeth y DU, fe fydd y ‘Cynllun am Waith’ yn parhau i gynnig cymorth i fusnesau, unigolion sydd yn hunan-gyflogwyr a rhai sydd yn chwilio am swyddi.

Nod y cynllun yw i greu swyddi a gweithwyr newydd i hybu eu sgiliau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.