Newyddion S4C

Ryan Giggs 'ar gyflog llawn' fel rheolwr Cymru ers cael ei arestio y llynedd

The Sun 30/09/2021
Huw Evans Agency

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Noel Mooney wedi cadarnhau bod Ryan Giggs yn dal “ar gyflog llawn” fel rheolwr Cymru ers cael ei arestio ym mis Tachwedd 2020.

Yn ôl The Sun, mae lle i gredu bod Giggs yn dal i fod yn ennill £400,000 y flwyddyn er iddo fod i ffwrdd o’i rôl ers cael ei arestio.

Pan ofynnwyd i’r prif weithredwr os oedd y Gymdeithas Bêl Droed yn dal i gyflogi Giggs, dywedodd Mooney wrth The Sun: “Mae’n dal i fod ar gytundeb gyda ni, ydy.”

Mae disgwyl i'r achos llys yn erbyn Ryan Giggs ddechrau ym mis Ionawr 2022, pan fydd yn wynebu cyhuddiadau o ymosod ar ddwy fenyw ac ymddygiad o reoli drwy orfodaeth.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.