Galw ar y llywodraeth i ddatgan 'argyfwng' yn y Gwasanaeth Ambiwlans
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan bod y Gwasanaeth Ambiwlans mewn “argyfwng”.
Mae’r blaid eisiau gweld y llywodraeth yn cyflwyno “cynlluniau clir” i ddatrys yr argyfwng presennol.
Roedd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George, yn arwain dadl yn y Senedd yn ddiweddarach ddydd Mercher, gan fanylu ar y pwysau dwys sydd ar GIG Cymru.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth yn "wynebu pwysau cynyddol" ar drothwy'r gaeaf.
Daw sylwadau'r Ceidwadwyr Cymreig wrth i'r Gwasanaeth Ambiwlans gofnodi un o'u hafau prysuraf erioed.
Yr wythnos hon, fe ofynnodd y gwasanaeth am gymorth gan y fyddin wrth iddynt wynebu "pwysau arwyddocaol a pharhaus" dros y misoedd nesaf.
'Tacsi yn opsiwn gwell'
Dywedodd Mr George: “Mae parafeddygon yn gweithio’n anhygoel o galed ac yn haeddu cydnabyddiaeth o’u hymroddiad mewn amgylchiadau mor heriol.
“Fodd bynnag, mae lefel y camreoli gan Lywodraeth Cymru yn gwaethygu'r hyn a oedd eisoes yn loteri cod post i'r “gorllewin gwyllt” lle mae cydio mewn tacsi yn opsiwn gwell na disgwyl am ambiwlans.”
Yn ôl y Ceidwadwyr mae data yn dangos bod 47,871 o oriau wedi eu colli oherwydd yr oedi wrth symud pobl o ambiwlansys i ysbytai yn ystod chwe mis cyntaf eleni, a dim ond ychydig dros hanner y galwadau coch am ambiwlansys, sef yr argyfyngau mwyaf difrifol, gyrhaeddodd eu cleifion o fewn y targed wyth munud ym mis Gorffennaf.
Ychwanegodd Mr George: “Mae problemau hir sefydlog difrifol yn GIG Cymru o ran staffio, gyda 3,000 o rolau heb eu llenwi, ond mae problemau eraill hefyd. O oriau aros mewn poen gartref neu yn sownd yng nghefn ambiwlans yn aros am wlâu ysbytai."
- Iolo Williams: ‘Gwarthus fod fy mam 90 oed wedi aros chwe awr am ambiwlans’
- Parafeddyg yn rhybuddio bod ‘pob diwrnod wedi bod yn ddiwrnod prysur’ dros 2021
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi sicrhau bod £25m o gyllid ar gael i wella'r modd y caiff gwasanaethau gofal brys ac mewn argyfwng eu darparu.
“Mae gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd gynllun cyflawni gweithredol gyda chamau i helpu i reoli galw 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti, gwella ymatebolrwydd, gwella’r broses o drosglwyddo cleifion ambiwlans. Mae cynlluniau hefyd i wella llif cleifion drwy'r system ysbytai ac allan i'r gymuned.
“Byddem yn annog pobl i ystyried sut i gael y gofal sydd ei angen arnynt. Gwefan GIG 111 Cymru yw'r ffordd gyflymaf o gael gafael ar gyngor gofal iechyd os ydych yn sâl, ac mae'n cynnwys gwiriwr symptomau, gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd lleol fel fferyllfeydd, a chyngor hunanofal.”
Llun: Gwasanaeth Ambiwlans Cymru