Y Gwasanaeth Ambiwlans yn ceisio sicrhau cymorth milwrol
20/09/2021
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi ceisio sicrhau cymorth milwrol er mwyn ymdopi gyda'r pwysau ychwanegol ar griwiau ambiwlans ar hyd a lled y wlad.
Mae galw cynyddol wedi bod ar y gwasanaeth yn ystod y pandemig a hefyd yn ystod misoedd prysur yr haf.
Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, wrth The National, eu bod yn ceisio sicrhau cymorth gan y fyddin ac wedi derbyn cymorth milwrol yn barod wrth osod trefniadau mewn lle i geisio ymdopi cyn misoedd prysuraf y gaeaf.
Dywedodd Mr Killens y byddai hyn yn rhoi mantais i'r gwasanaeth wrth i'r gaeaf agosáu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.