Stori Sant Padrig yn symbol o 'wytnwch a dewrder' mudwyr
Mae arlywydd newydd Iwerddon wedi datgan fod stori Sant Padrig, sy'n cael ei ddathlu ar 17 Mawrth, yn symboleiddio "gwytnwch a dewrder" mudwyr.
Dyma neges Dydd San Padrig gyntaf Catherine Connolly fel arlywydd ar ôl cael ei hethol i'r swydd ym mis Hydref 2025.
Yn ei neges, dywedodd fod y dyn ifanc a ddaeth yn Sant Padrig wedi cael ei fasnachu dros Fôr Iwerddon o Brydain yn ystod y bumed ganrif.
Mae rhai haneswyr wedi dadlau bod y sant yn Gymro ac wedi mynd i Iwerddon ar ôl cael ei werthu fel caethwas.
Ychwanegodd Catherine Connolly ei fod wedi dychwelyd i Iwerddon yn ddiweddarach "gan roi ei lais a'i fywyd i dynnu sylw at ganlyniadau caethwasiaeth".
"Mae stori San Padrig yn ein hatgoffa o wytnwch a dewrder mudwyr a'r cyfraniadau pwysig maen nhw wedi'u gwneud, ac yn parhau i'w gwneud, i'r gwledydd maen nhw'n eu galw'n gartref," meddai.
"Wrth i ni gofio am Padrig, rydyn ni'n gweithredu yn ei ysbryd ac yn cydnabod ein cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang."
'Heriau'
Defnyddiodd yr achlysur hefyd i rybuddio rhag "normaleiddio rhyfel" wrth i Taoiseach (Prif Weinidog) Iwerddon, Micheál Martin baratoi i gwrdd â Donald Trump yn y Tŷ Gwyn ddydd Mawrth.
"Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n rhaid i ni adfer ein hymrwymiad i heddwch a diplomyddiaeth yn unol ag egwyddorion cyfraith ryngwladol a Siarter y Cenhedloedd Unedig," meddai.
Yr wythnos diwethaf, siaradodd yn erbyn "ymosodiadau bwriadol ar gyfraith ryngwladol" yn y Dwyrain Canol gan ddweud na all Siarter y Cenhedloedd Unedig "gael ei hanwybyddu".
Serch hynny, er na enwodd UDA nac Israel yn uniongyrchol, wnaeth hi ddim datgan fod bomio Iran yn groes i gyfraith ryngwladol.
Pwysleisiodd fod Iwerddon yn wlad niwtral ac yn gymdeithas ôl-drefedigaethol, sy'n golygu y gallai gynnig "persbectif gwerthfawr ar yr heriau sy'n wynebu ein byd".
