Rhybudd gan Trump: 'Gwael i ddyfodol Nato'
Mae Donald Trump wedi dweud y byddai yn "wael iawn i ddyfodol Nato" os nad yw cynghreiriaid yn llwyddo i ddiogelu'r culfor Hormuz.
Mae Iran wedi cau'r culfor yn sgil y rhyfel rhwng y wlad ac America a Israel. Culfor Hormuz yw un o brif lwybrau masnach strategol y byd ac mae'n hanfodol i ddosbarthu olew.
Mewn cyfweliad gyda'r Financial Times mae arlywydd America wedi dweud ei fod yn disgwyl i Tsieina helpu ac wedi bygwth peidio cwrdd ag arweinydd y wlad mewn uwch gynhadledd os na fyddan nhw yn gwneud.
Mae Trump wedi sôn am saith gwlad ddylai fod yn "plismona'r" culfor ond dydy o heb eu henwi. Dywedodd wrth y Financial Times bod hi "ddim ond yn briodol" i wladwriaethau sydd yn elwa o gulfor Hormuz i helpu i'w ail agor.
Ychwanegodd fod America wedi bod yn "hyfryd" gyda'i chynghreiriaid Ewropeaidd.
"Doedden ni ddim yn gorfod helpu Wcráin. Mae Wcráin filoedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrthom ni...Ond fe wnaethon ni helpu. Nawr fe gawn ni weld os byddan nhw yn helpu ni."
Dywedodd hefyd tra yn teithio mewn awyren y byddai o yn "cofio" os na fyddai'r gwledydd yn ei helpu.