Newyddion S4C

Gwyliau haf crasboeth yn rhoi pwysau 'aruthrol' ar y Gwasanaeth Ambiwlans

20/07/2021

Gwyliau haf crasboeth yn rhoi pwysau 'aruthrol' ar y Gwasanaeth Ambiwlans

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru wedi dweud fod cyfuniad o'r gwyliau haf a thywydd poeth yn achosi cyfnod prysur iawn i'r gwasanaeth.

Daw hyn wrth iddynt gadarnhau nos Lun fod Digwyddiad Parhad Busnes wedi ei ddatgan gan y gwasanaeth, gyda mesurau yn eu lle i geisio mynd i’r afael â’r galw.

Mae'r ymddiriedolaeth yn dweud eu bod wedi bod yn derbyn oddeutu 2,000 o alwadau 999 bob dydd dros y tridiau diwethaf.

Maen nhw'n erfyn ar bobl i gysylltu “dim ond os ydy’r alwad yn argyfwng gwirioneddol”.

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog pobl i gysylltu gyda gwasanaeth 111 y GIG, yn sgil y “pwysau aruthrol” sydd ar y gwasanaeth ambiwlans.  

'Galw yn fwy na'r gallu'

Roedd nifer y galwadau, ynghyd ag oedi hir mewn ysbytai ledled Cymru, yn golygu bod y galw am y gwasanaeth yn fwy na'i allu i ymateb, medd y Gwasanaeth Ambwilans yng Nghymru.

Roedd 11% yn fwy o alwadau ddydd Llun o'i gymharu ag wythnos ynghynt (12 Gorffennaf), ac 20% yn uwch o'i gymharu â'r un dydd Llun y llynedd (20 Gorffennaf 2020).

Yn ogystal, roedd galwadau 'coch' - sef achosion sydd yn peryglu bywyd - 30% yn uwch ar 19 Gorffennaf o'i gymharu â 12 Gorffennaf.

Wrth gyhoeddi, dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod yn “annog y cyhoedd i gyd-weithio”.

“Os ydy eich galwad yn llai brys yna byddwch yn aros yn hwy am help, neu fe allwn ofyn ichi wneud trefniant arall, gan gynnwys gwneud eich ffordd eich hun i’r ysbyty os oes angen.

“Rydyn ni'n obeithiol y bydd y camau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith yn dechrau dod i rym ond tan hynny, helpwch ni i'ch helpu chi a dim ond galw os yw'n argyfwng go iawn.”

Yn ddiweddarach ddydd Mawrth, dywedodd Ambiwlans Cymru: “Mae'r gwyliau ysgol wedi cychwyn ac mae'r tywydd yn parhau i fod yn boeth, sy'n golygu ffyrdd prysurach, llawer o bobl ar eu gwyliau ledled Cymru ac amser prysur iawn i #TeamWAST.”

Daw hyn wrth i Gymru wynebu tymereddau yn yr ugeiniau a’r tridegau dros y penwythnos a dydd Llun.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda’r gwasanaeth am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.