Newyddion S4C

Iolo Williams: ‘Gwarthus fod fy mam 90 oed wedi aros chwe awr am ambiwlans’

11/08/2021
S4C

Mae’r cyflwynydd a'r darlledwr Iolo Williams wedi dweud ei bod hi’n “warthus” fod ei fam 90 oed wedi gorfod aros dros chwe awr am ambiwlans ar ôl disgyn o'i gwely. 

Fe ddisgynnodd ei fam, Megan Williams, o’i gwely yn y Felinheli ychydig wedi 07:00 fore dydd Mercher.

Fe gyrhaeddodd yr ambiwlans am 13:00, a’i chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, bedair milltir i ffwrdd o'i chartref.

“Dwi’n meddwl ei fod o’n warthus fod fy mam sy’n 90 oed ac wedi cwympo wedi cael ei gorfodi i orwedd ar y llawr am gyn hired,” meddai’r naturiaethwr. 

Roedd Ffion, chwaer Iolo, yn aros gyda’i fam ar y pryd, gan ychwanegu ei bod hi’n “lwcus” ei bod yno i glywed ei mam yn gweiddi yn dilyn y godwm. 

Eglurodd Mr Williams fod ei chwaer wedi ffonio’r gwasanaethau brys dair gwaith yn dilyn yr alwad gyntaf, ac wedi gorfod troi at gymorth dros-y-ffôn gan feddyg Mrs Williams. 

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Mr Williams, mai dyma yw “effaith toriadau tymor-hir i’r Awdurdod Iechyd”.

Fe aeth ymlaen i ddweud wrth Newyddion S4C: “Dwi ddim yn beio’r parafeddygon eu hunain, jyst gwneud ei gwaith maen nhw,”meddai.

“Ond does 'na ddim cariad o gwbl at yr NHS, mae hynny’n amlwg – mae pethau wedi bod yn gwaethygu ers blynyddoedd.”

“Mae ‘na ddiffyg buddsoddiad amlwg,” meddai. 

“Rydyn ni’n gweld y bobl gyfoethog yn rhedeg y wlad, ac maen nhw’n gwybod os oes angen mynd yn breifat, mae pobl yn gallu gwneud hynny.” 

Daw sylwadau Mr Williams wrth i’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru wynebu pwysau aruthrol.

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan annog pobl i gysylltu gyda 111 y GIG er mwyn lleddfu’r baich ar y gwasanaeth.

Mae BBC Cymru yn adrodd ddydd Mercher bod “mwy o straen ar ambiwlansys nawr nag ar frig y pandemig”.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Wasanaeth Ambiwlans Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.