Newyddion S4C

Parafeddyg yn rhybuddio bod ‘pob diwrnod wedi bod yn ddiwrnod prysur’ dros 2021

09/09/2021

Parafeddyg yn rhybuddio bod ‘pob diwrnod wedi bod yn ddiwrnod prysur’ dros 2021

Mae parafeddyg o Ynys Môn wedi rhybuddio fod “pob diwrnod wedi bod yn ddiwrnod prysur” yn ystod 2021.

Daw hyn ar ôl i Wasanaeth Ambiwlans Cymru gyhoeddi'r wythnos hon eu bod yn wynebu “galw eithriadol” yn y tywydd poeth.

Dros un penwythnos, fe dderbyniodd y gwasanaeth un alwad bob 40 eiliad.

Un sydd wedi gorfod delio â’r galwadau yma yw Aled Thomas, sydd yn Rheolwr Gweithrediadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, yn Llangefni.

Yn siarad gyda Newyddion S4C i nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys, fe ddywedodd Mr Thomas fod ei swydd wedi “mynd yn anoddach” dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

“Mae o wedi bod yn dipyn o her i ni i ddelio ‘efo y Covid ar ben ein gwaith arferol.

“Mae’r gwaith sy’ ‘di dŵad wedyn ar ben hynny oherwydd pobol ddim yn mynd ar eu gwyliau dramor yn dod i’r ardal yma.

“Mae bob penwythnos – pob diwrnod o’r ha’ yn ddiwrnod prysur i ni i ddeud y gwir.”

Image
Gorsaf Ambiwlans Llangefni
Gorsaf Ambiwlans yn Llangefni, Ynys Môn

Yn ogystal, mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi nodi eu bod wedi gweld cynnydd mewn galwadau’n ymwneud â Covid-19 am y bedwaredd wythnos yn olynol.

Bu 237 o alwadau’n gysylltiedig â’r feirws yn yr wythnos ers 9 Awst, gyda 293 galwad yn ystod yr wythnos ers 30 Awst.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod hyn hefyd wedi golygu bod 122, neu 4%, o’u gweithwyr yn absennol o’r gwaith ddydd Llun.

O ganlyniad, mae Aled Thomas nawr yn annog y cyhoedd i gymryd gofal, yn enwedig wrth i nifer o achosion o Covid-19 gynyddu.

“’Da ni’n ddiolchgar ofnadwy am eu cefnogaeth nhw drwy gydol y flwyddyn,” ychwanegodd.

“Ond neges sydd genai i bawb ydy – byddwch yn saff, byddwch yn ofalus, cadwch i’r rheolau.

“Mae Covid dal yma, mae o dal o gwmpas.”

Gyda Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn dathlu cyfraniad gweithwyr a gwirfoddolwyr, mae Aled wedi rhoi teyrnged i’r miliynau o bobl sydd yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys.

“[Mae gen i] falchder ofnadwy i fod yn rhan o’r swydd dwi’n rhan o ar hyn o bryd, ac wedi bod ers 30 mlynedd,” dywedodd.

“Gweithio ‘efo pobol ffantastig drwy gydol y Gwasanaeth Iechyd – ddim jyst ambiwlans.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd ar y cyfan yn anhygoel ac wedi codi i’r her mawr ‘ma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.