Cip olwg ar benawdau'r bore

06/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar fore Llun, 6 Medi - o Gymru a thu hwnt.

Nifer sy’n cysgu ar y stryd wedi mwy na dyblu yn Sir Benfro

Mae’r nifer o bobl sy’n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd yn Sir Benfro wedi cynyddu i 137 o bobl. Dywedodd Cyngor Sir Penfro wrth Newyddion S4C fod hyn yn fwy na dwbl y nifer cyn y pandemig.

Llafur yn gwrthwynebu cynlluniau Yswiriant Gwladol Boris Johnson- Mirror

Mae Keir Starmer, arweinydd y blaid Lafur wedi gwrthwynebu cynlluniau i gynyddu Yswiriant Gwladol i ariannu gofal cymdeithasol. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson yn paratoi i gyhoeddi cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol yr wythnos hon er mwyn casglu oddeutu £10bn y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a'r GIG.

Y Taliban yn honni eu bod bellach yn rheoli Affganistan gyfan- Sky News

Mae’r Taliban yn honni eu bod bellach yn rheoli Affganistan i gyd ar ôl cymryd rheolaeth lwyr ar dalaith Panjshir, yr ardal olaf yn y wlad lle mae byddin y gwrthwynebiad. Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban, Zabihullah Mujahid, bod yr ardal wedi ei “gorchfygu’n llwyr” a bod “nifer o bobl” wedi’u lladd tra bod y “gweddill wedi ffoi”.

Mwy o chwaraeon anabledd yn cael eu cynnal ym Mhowys nag erioed o’r blaen

Mae gan sir Powys y nifer fwyaf o chwaraeon er lles pobl anabl ymhlith yr holl awdurdodau lleol ledled Cymru. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae'r ardal wedi gweld “twf” yn y nifer o sesiynau chwaraeon anabledd sydd wedi’u cynnal yn flynyddol a’u cynllunio gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

Atal gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Brasil a’r Ariannin- The New York Times

Cafodd gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Brasil a’r Ariannin, timau pêl-droed mwyaf llwyddiannus De America, ei hatal ar ôl ychydig o funudau ddydd Sul. Fe wnaeth awdurdodau iechyd Brasil ymyrryd yn y chwarae er mwyn ceisio tynnu pedwar chwaraewr o'r Ariannin, sydd wedi'u cyhuddo o dorri rheolau cwarantîn Covid-19, oddi ar y cae. 

Rhybudd melyn am niwl i dde Cymru

Mae rhybudd melyn am niwl trwchus mewn grym ar gyfer rhannau o dde Cymru rhwng 03:00 a 09:00 fore Llun. Fe allai'r niwl achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n bosib y gallai rhai hediadau awyrennau gael eu gohirio neu ganslo o ganlyniad. 

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.