Newyddion S4C

Mwy o chwaraeon anabledd yn cael eu cynnal ym Mhowys nag erioed o’r blaen

06/09/2021

Mwy o chwaraeon anabledd yn cael eu cynnal ym Mhowys nag erioed o’r blaen

Mae gan sir Powys y nifer fwyaf o chwaraeon er lles pobl anabl ymhlith yr holl awdurdodau lleol ledled Cymru.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae'r ardal wedi gweld “twf” yn y nifer o sesiynau chwaraeon anabledd sydd wedi’u cynnal yn flynyddol a’u cynllunio gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

Yn 2001 cafodd oddeutu 500 o sesiynau chwaraeon eu cynnal er lles pobl anabl yn ystod y flwyddyn ym Mhowys, ond eleni gwelir bod y ffigwr yma wedi cynyddu i 28,000.  

Daw’r datgeliad gan Chwaraeon Powys yn dilyn llwyddiannau nifer o chwaraewyr Cymru gyda thîm Prydain, yn y Gemau’r Paralympaidd.

Yn ôl Rhian Davies, Cadeirydd Clwb Hoci a Hyfforddwr Clwb Gymnasteg Gwernyfed, rhaid sicrhau ein bod yn “byw yn y dyfodol”.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Yn hanesyddol odd’ tipyn bach o stigma bod rhaid i bobl anabl a phobl sydd heb chwarae ar noson wahanol efallai.

“Ond mae’n dangos i chi nawr o fewn ein clybiau ni, yn enwedig yn de Cymru neu dde Powys, bod ni gallu ymuno gyda’n gilydd.

“Nawr dwi’n gweld enghreifftiau pob nos pan dwi’n hyfforddi bod neb yn cael eu trin yn wahanol a bod siâp cynhwysol gyda holl glybiau o fewn de Powys,” meddai.

“Dwi’n meddwl bod hwnna’n cael effaith fawr wedyn o fewn yr ysgolion ac ar y stigma dros yr holl fyd, fi’n siŵr.”  

Cyfle i gadw’n heini

Dywedodd Beverly Tucker, sef Swyddog Chwaraeon Anabledd a Chymunedau Actif Powys, bod y cynnydd yn y nifer o sesiynau chwaraeon sydd ar gael yn golygu bydd “llawer mwy o ddewis i bobl anabl” gan sicrhau modd darganfod camp y maent yn eu mwynhau.

Ychwanegodd: “Dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y byddan nhw’n dod yn Baralympiaid, achos nid pawb sydd eisiau cystadlu ar y lefel uchaf.

“Mae’n ymwneud â chadw’n heini, cwrdd â phobl newydd, a gofalu am eich iechyd a’ch lles.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.