Rhybudd melyn am niwl i dde Cymru
06/09/2021
Mae rhybudd melyn am niwl trwchus mewn grym ar gyfer rhannau o dde Cymru fore Llun.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd fod y rhybudd mewn grym rhwng 03:00 a 09:00.
Fe allai'r niwl achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n bosib y gallai rhai hediadau awyrennau gael eu gohirio neu ganslo o ganlyniad.
Ymhlith y siroedd sy’n cael eu heffeithio mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.