Newyddion S4C

Llafur yn gwrthwynebu cynlluniau Yswiriant Gwladol Boris Johnson

Mirror 06/09/2021
Boris Johnson Downing Street

Mae Keir Starmer, arweinydd y blaid Lafur wedi gwrthwynebu cynlluniau i gynyddu Yswiriant Gwladol i ariannu gofal cymdeithasol. 

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson yn paratoi i gyhoeddi cynnydd o 1.25%  mewn Yswiriant Gwladol yr wythnos hon er mwyn casglu oddeutu £10bn y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a'r GIG.

Yn ôl The Mirror, mae'r Prif Weinidog yn bwriadu dadlau bod y cynnydd yn hanfodol i achub y GIG ond mae gweinidogion, cynorthwywyr y llywodraeth ac ASau Torïaidd yn bygwth gwrthryfel dros y cynllun.

Mewn cyfweliad gyda'r Mirror, dywedodd Mr Starmer: "Mae angen mwy o fuddsoddiad yn y GIG a gofal cymdeithasol ond mae Yswiriant Gwladol, ei wneud fel hyn, yn effeithio pobl ar gyflogau isel, pobl ifanc a busnesau.”

Honnodd mewnwyr y llywodraeth fod Rhif 10 a'r Trysorlys yn dal i drafod union fanylion y polisi, a sut y byddai'n cael ei rannu rhwng y GIG a gofal cymdeithasol. Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.