Newyddion S4C

Atal gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Brasil a’r Ariannin

The New York Times 06/09/2021

Atal gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Brasil a’r Ariannin

Cafodd gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Brasil a’r Ariannin, timau pêl-droed mwyaf llwyddiannus De America, ei hatal ar ôl ychydig o funudau ddydd Sul.

Fe wnaeth awdurdodau iechyd Brasil ymyrryd yn y chwarae er mwyn ceisio tynnu pedwar chwaraewr o'r Ariannin, sydd wedi'u cyhuddo o dorri rheolau cwarantîn Covid-19, oddi ar y cae. 

Dywedodd swyddogion iechyd o Frasil, eu bod wedi dod i’r casgliad bod chwaraewyr yr Ariannin wedi dweud celwydd am fod yn Lloegr wrth deithio i Frasil.

Anfonwyd aelodau o staff tîm Brasil i’r stadiwm i geisio “gwahanu a chludo chwaraewyr i’r maes awyr ar unwaith".

Mae Claudio Tapia, llywydd Ffederasiwn Pêl-droed yr Ariannin, yn anghytuno gyda'r cyhuddiad bod unrhyw un o chwaraewyr y tîm wedi dweud celwydd am eu teithio.

Roedd gôl-geidwad Aston Villa, Emiliano Martinez, a Cristian Romero a Giovani Lo Celso o Tottenham Hotspur ymysg y pedwar sy'n cael eu cyhuddo o dorri canllawiau hunanynysu Covid-19.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.