Ffordd osgoi Porthmadog ar gau ddydd Llun ar ôl gwrthdrawiad angheuol
Mae Traffig Cymru wedi dweud y bydd ffordd osgoi Porthmadog ar gau nes prynhawn dydd Llun ar ôl gwrthdrawiad angheuol nos Sadwrn.
Ddydd Sul fe ddywedodd Heddlu'r Gogledd y byddai'r ffordd, yr A487 “yn parhau ar gau heno a than yfory (22 Rhagfyr) wrth i ymchwiliadau barhau i wrthdrawiad angheuol”.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 21.30 nos Sadwrn.
Fore ddydd Llun roedd Traffic Cymru yn dweud y bydd y ffordd ar gau nes 14.00.
Mae’r heddlu yn cynghori teithwyr i osgoi'r ardal a defnyddio'r dargyfeiriadau sydd wedi'u nodi ar arwyddion.
Fe wnaethon nhw ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd wrth iddyn nhw ddelio â’r digwyddiad yn ei neges.
Ychwanegodd y llu: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig eu cydymdeimlad dwysaf i'r teuluoedd.
"Gofynnwn i bobl barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod criwiau o Blaenau Ffestiniog, Caergybi a Harlech wedi eu galw am 21:30 nos Sadwrn er mwyn cynorthwyo swyddogion heddlu. Fe wnaethon nhw adael y safle am 6 y gloch ar fore dydd Sul.
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ei fod yn "newyddion hynod drist".
"Cydymdeimladau dwysaf i deulu a ffrindiau sy’n galaru ar ôl y gwrthdrawiad marwol hwn ger Porthmadog," meddai.
"Diolch i’r gwasanaethau brys am eu gwaith rŵan ac yn ystod y dyddiau nesaf. Mae digwyddiadau trasieg fel hyn yn effeithio ar gymaint o bobl."
Mae Heddlu'r Gogledd wedi gofyn i lygaid dystion gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod C196768.