‘Un cam ar y tro’: Delwyn Siôn yn trafod effaith gwaedlif ar ymennydd ei fab
“Odd e yn un o’r eiliadau ‘na ti’n cofio gan wybod bod gweddill dy fywyd di yn mynd i fod yn wahanol iawn, iawn i’r hyn o ti’n ddisgwyl.”
Yn chwe wythnos oed fe gafodd mab y canwr a’r cyfansoddwr Delwyn Siôn waedlif ar yr ymennydd.
Roedd Delwyn yn gwylio’r rygbi ar y teledu gyda'i fab bach, Meilir.
“Yn sydyn reit nath e jest plygu nol. Ath ei lygaid i dop ei ben e. O’n i yn gwybod bod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd,” meddai mewn cyfweliad ar raglen Dan y Lloer ar S4C.
Ar ôl cael ei ruthro i’r ysbyty doedd y teulu ddim yn gwybod am ddyddiau a fyddai Meilir yn goroesi. Ond yn araf bach fe ddechreuodd wella.
Fe gafodd y teulu fynd adref, ond roedden nhw yn gwybod y bydd problemau yn eu wynebu.
“Un cam ar y tro wedyn, odd e mynd i allu cerdded, odd e yn mynd i allu siarad, odd e yn mynd i allu gweld, yr holl bethau yma.
Ond yn ffodus i ni un wrth un fe ddaeth y pethe yma. Ddath dim bopeth, odd ei leferydd e yn hir iawn yn datblygu. Mi oedd yna broblemau achos odd y gwaedlif yng nghanol ei ymennydd yn effeithio ei gorff a’i feddwl e.”
‘Uned gref’
Er bod yna heriau yn dal i wynebu Meilir mae’n dweud eu bod nhw yn “llwyddo o hyd i oresgyn rhein cystal a gallwn ni”.
Dyw hi ddim wedi bod yn gyfnod hawdd i’r teulu cyfan yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ddiweddar fe siaradodd merch Delwyn, Marged Siôn sydd yn canu gyda’r grŵp Self Esteem am ei phrofiad o gael ei cham-drin yn rhywiol. Mae ei ferch hynaf, Lowri hefyd wedi profi problemau iechyd.
“Fel teulu yn ni wedi cael tipyn o ddigwyddiadau yn ein taro ni. Ond yn ni dal yn un uned gref. Wy’n gobeithio bod e’n dod oddi wrthon ni fel rhieni bod ni yn gobeithio’r gore ac yn neud y gore o’r sefyllfa,” meddai.
Yn Aberdâr y cafodd Delwyn Siôn ei fagu. Er ei fod wedi gadael y dref yng Ngwm Cynon ers bron hanner canrif mae’n dal i gyfri ei hun yn “fachan o Aberdâr”. Roedd y gymuned yno yn un agos.
‘Cloddio am y plant’
“O’n i yn byw mewn stryd o ryw 150 o dai ac allai weud ar fy nghalon o’n i yn nabod y cant o bobl oedd yn byw yn y tai yna. Wy’n credu mai’r ffaith bod pawb yn rhannu fawr o ddim byd o da nhw ond o’n nhw yn fodlon rhannu fe i gyd.”
Plentyn ysgol oedd Delwyn pan ddigwyddodd trychineb Aberfan. Ar y diwrnod hwnnw yn 1966 fe lithrodd tomen lo lawr y mynydd a tharo Ysgol Gynradd Pantglas. Cafodd 144 o bobl eu lladd, nifer yn blant.
Y diwrnod wedyn roedd eisteddfod y glowyr yn Aberdâr.
“Yng nghanol yr Eisteddfod fe ddaeth na löwr mewn a gofyn i’r dynion yn yr Eisteddfod os oedden nhw yn fodlon gadael yr Eisteddfod a mynd lawr y cwm a dros y mynydd i gloddio am y plant.”
Mae Delwyn Siôn wedi bod yn aelod o nifer o grwpiau cerddorol ar hyd y blynyddoedd. Pan oedd yn aelod o’r band Omega fe ddangosodd tîm rheoli Duran, Duran ddiddordeb yn eu cerddoriaeth.
“Ond bydde hwnna siŵr o fod wedi golygu mynd i ganu yn Saesneg. Ac odd hwnna i fi yn amhosib. Wy’n meddwl yn Gymraeg, breuddwydio yn Gymraeg, wy yn cyfansoddi yn naturiol yn Gymraeg.”
Ar hyd y blynyddoedd mae o hefyd wedi bod yn cyfarwyddo cyfresi fel Hapus Dyrfa a Pobl y Cwm ond wedi ymddeol erbyn hyn. Ar hyn o bryd mae’n arweinydd yng nghapel Gwaelod y Garth.
Iddo fo mae’r capel “fel batri charger anferth os licie di i gael ni i wythnos arall ac wythnos arall.”
Dydy o ddim yn credu mewn rhai rhannau o’r Beibl gan ddweud bod yr hen destament yn “waradwyddus, erchyll, erchyll.”
Duw yw cariad meddai a Christnogaeth yw sut mae pobl yn edrych ar ôl ei gilydd.
Un Seren
Un o ganeuon enwocaf Delwyn Siôn yw Un Seren. Fe wnaeth o ei chyfansoddi pan oedd o’n gweithio gyda rhaglen radio Pupur a Halen. Doedd o ddim wedi meddwl llawer amdani ar ôl ei chreu meddai.
Ond flwyddyn wedyn fe welodd ei bod hi wedi dod yn gân boblogaidd.
“Odd rhywbeth wedi digwydd a odd pawb moen clywed Un Seren. O’n i yn teimlo yn ostyngedig iawn. Odd pawb yn gofyn am Un Seren yn ganol mis Awst mewn cyngerdd. ‘Cana Un Seren’ ‘Mae’n gân Nadolig!’ ‘O sdim ots, sdim ots’.”
Gwyliwch Sgwrs Dan y Lloer: Delwyn Siôn am 20:00 ar S4C nos Lun, Rhagfyr 22.