Llywodraeth y DU eisiau gwahardd hela sawr

Hela

Fe allai hela sawr (trail hunting) gael ei wahardd gan lywodraeth y DU.

Yn ôl y llywodraeth mae yna bryderon bod yr arfer yn cael ei ddefnyddio i guddio hela anghyfreithlon.

Mae'n rhan o ymgynghoriad sydd yn cychwyn ddydd Llun ar strategaeth lles anifeiliaid.

Bydd hefyd yn cynnwys gwahardd ffermio cŵn bach a gwahardd coleri sydd yn rhoi sioc drydanol i anifeiliaid anwes.

Mae'r Ysgrifennydd Amgylchedd, Emma Reynolds yn dweud bod Prydain yn "genedl sydd yn caru anifeiliaid". Ei honiad yw bod y llywodraeth yn "cyflawni'r strategaeth lles anifeiliaid mwyaf uchelgeisiol mewn cenhedlaeth".

Croesawu'r newyddion ynglŷn â gwahardd ffermio cŵn bach mae'r RSPCA wedi gwneud. Ond mae Cynghrair Cefn Gwlad wedi condemnio'r bwriad i wahardd hela sawr.

Mae'r strategaeth yn nodi'r camau y bydd y llywodraeth yn cymryd er mwyn amddiffyn anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a rhai gwyllt.

Mae gweinidogion yn bwriadu dechrau ymgyrch diogelwch lles fydd yn hybu bod yn gyfrifol os oes gyda chi gi. Dros y blynyddoedd diwethaf mae yna bryderon wedi bod ynglŷn â chŵn XL bully. Mae'r brîd wedi ei wahardd wedi'r cysylltiad rhyngddynt ac ymosodiadau angheuol.

Ymhlith y cynlluniau ar gyfer gwella lles anifeiliaid fferm mae defnyddio dulliau mwy trugarog i ladd pysgod a symud i ffwrdd o ddefnyddio cawellu niferus ar gyfer ieir i ddodwy wyau.

Mae bwriad hefyd i wahardd trapiau maglu i anifeiliaid gwyllt a chyflwyno cyfnod tymhorol i hela sgwarnogod.

Dywedodd yr RPSCA bod y cynlluniau yn "gam mawr ymlaen sydd gyda'r potensial i wella bywydau miliynau o anifeiliaid'.

Ond mae Cynghrair Cefn Gwlad yn dweud bod hela sawr (trail hunting) yn "cefnogi cannoedd o swyddi ac yn ganolog i nifer mewn cymunedau gwledig."  
 

Llun:Ben Birchall/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.