Ymosodiad Bondi: Y ddau ddyn arfog wedi cael hyfforddiant gynnau

Dyn arfog ymosodiad traeth Bondi

Mae heddlu Awstralia wedi dweud bod y ddau ddyn arfog sydd yn cael eu cyhuddo o lofruddio 15 o bobl ar draeth Bondi wedi cael hyfforddiant gynnau yn y wlad.

Roedd Naveed Akram, sy'n 24 oed a'i dad, Sajid Akram hefyd wedi ymweld â'r safle ddeuddydd cyn yr ymosodiad.

Yn ôl heddlu'r wlad roedd y ddau wedi"cynllunio'r ymosodiad yn fanwl am sawl mis".

Mae Naveed Akram wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau gan gynnwys 15 o lofruddiaeth ac un o weithredu terfysgol.

Fe gafodd o ei anafu yn ystod yr ymosodiad ond mae erbyn hyn wedi ei drosglwyddo o'r ysbyty i garchar.

Cafodd 15 o bobl eu lladd mewn dathliad Iddewig ar draeth Bondi yn Sydney, Awstralia ddydd Sul Rhagfyr 14.

Fe fuodd Sajid Akram farw yn y fan ar lle. 
 

Mae'r heddlu hefyd yn dweud bod y tad a mab wedi cyhoeddi fideo ym mis Hydref lle maent yn eistedd o flaen fflag y grŵp Gwladwriaeth Islamaidd.

Yn y fideo maent yn dweud eu rhesymau dros yr ymosodiad ar draeth Bondi ac yn "condemnio gweithredau Seioniaid (Zionists)".

Oriau cyn yr ymosodiad mae lluniau CCTV yn dangos y ddau yn cerdded yn Sydney gyda "eitemau hir a swmpus oedd wedi eu gorchuddio gyda blancedi" meddai'r heddlu.

Cafodd yr eitemau eu gosod mewn car. Roeddent yn cynnwys gynnau, bomiau roeddent wedi eu creu eu hunain a dwy fflag y Wladwriaeth Islamaidd.

Fe wnaethon nhw wedyn yrru i draeth Bondi meddai'r heddlu, mynd i nol y bomiau a gynnau a dechrau'r ymosodiad. 

Llun: Llun o fideo ym mis Hydref 2025 gan Lysoedd a thribiwnlys NSW /PA Wire

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.