Mam yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad 'barbaraidd' ar ei mab
Mae mam dyn ifanc wnaeth ddioddef ymosodiad "barbaraidd" yng Nghaerdydd yn 2002 wedi apelio o'r newydd ar y rhai sydd yn "gwybod beth ddigwyddodd" i gysylltu gyda'r heddlu.
Fe ddioddefodd Leon Adams ymosodiad tu allan i orsaf drenau Trelluest Chwefror 14 2002.
Fe gafodd ei adael gydag anaf i'w ymennydd oedd yn golygu ei fod angen gofal 24 awr y dydd.
Fe fuodd Leon farw ar ddydd San Steffan yn 2024, yn 47 oed. Daeth crwner i'r casgliad ym mis Ionawr eleni bod yr anaf ar ei ymennydd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
Yn ôl ei fam, Angela Main fe wnaeth yr ymosodiad newid popeth.
"Roedd gen i ddau fersiwn o fy mab Leon," meddai.
"Roedd gen i'r mab wnaeth fyw am 24 mlynedd a hanner a oedd, fel y gweddill ohonom ni yn byw bywyd normal, yn rhedeg o gwmpas, yn caru cyfrifiaduron, yn caru darlunio a'r holl bethau hynny.
"Ac yna un diwrnod roedd o wedi mynd. A'r cyfan oedd ar ôl oedd rhywun mewn cyflwr diffrwyth a llonydd."
'Plîs jest dywedwch'
Mae'n canmol ymchwiliad yr heddlu wedi'r ymosodiad ond yn dweud nad oes "modd iddyn nhw wneud mwy oni bai bod y person sydd yn gwybod beth ddigwyddodd yn dod ymlaen".
"Mi oedd o eisiau gwybod pwy wnaeth, mi fydden ni yn hoffi gwybod er ei fwyn o a'r teulu," meddai. "Plîs jest dywedwch wrth rywun."
Mae'r elusen Crimestoppers nawr yn cynnig £20,000 i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth fyddai'n golygu y byddai'r rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfraith.
Atebion 'yn y gymuned'
Yn ôl y Ditectif Arolygwr Mark O'Shea o Heddlu'r De roedd yr ymosodiad ar Leon yn un "creulon a didrugaredd".
"Fe gafodd ei adael i bob pwrpas yn farw," meddai.
"Dwi eisiau apelio i unrhyw un sydd yn gwybod pwy wnaeth ymosod ar Leon y diwrnod hwnnw.
"Dwi'n siŵr nawr a dwi'n siŵr y tro diwethaf i fi apelio am wybodaeth yn gysylltiedig gyda'r achos yma bod yr atebion yn dal o fewn cymuned Trelluest."
Ychwanegodd bod rhai "ffynonellau dienw" wedi cysylltu gan roi gwybodaeth am yr ymosodiad ar Leon a bod y llu yn awyddus i siarad gyda nhw.
"Gwnewch hyn ar gyfer teulu Leon, yn benodol ei fam sydd bron a marw eisiau deall pwy wnaeth ymosod ar ei mab mewn ffordd mor greulon a barbaraidd yn ôl yn 2002," meddai.
"Mae'n haeddu cael cau pen y mwdwl ar yr achos yna. Mae'n haeddu cyfiawnder yn yr achos yma."
Mae modd cysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 a rhoi'r cyfeirnod 1800044587 neu trwy ffonio Crimestoppers yn ddienw ar y rhif 0800 555 111.