Dafydd Iwan yn emosiynol wrth gael ei holi am sut y byddai'n hoffi cael ei gofio
Mae Dafydd Iwan o dan deimlad wrth gael ei holi am sut y byddai'n hoffi cael ei gofio mewn cyfres newydd ar S4C.
Y canwr a'r ymgyrchydd yw'r gwestai cyntaf yng nghyfres Y Cyfweliad ar S4C, sef fersiwn Gymraeg o'r gyfres The A Talks, neu The Assembly.
Yn y gyfres, fe fydd grŵp o 30 o Holwyr awtistig, niwro-amrywiol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.
Siwan Haf ydy cynhyrchydd Y Cyfweliad ar ran Cwmni Da, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Yn dilyn gweld y rhaglen yn darlledu ar BBC efo Michael Sheen a wedyn gweld ei phoblogrwydd hi ar ITV, o’dd o’n amlwg wedi cydio yn y gynulleidfa.
"Oeddan ni’n teimlo fel cwmni cynhyrchu bo’ genna ni’r profiad a’r cysylltiadau o fod wedi cydweithio efo llawer yn y gymuned niwro-amrywiol, ac yn credu fasa hon yn bendant yn gweithio yn y Gymraeg."
'Gwahaniaeth er gwell'
Yn y bennod gyntaf, mae'r Holwyr yn gofyn cwestiynau amrywiol i Dafydd, gan gynnwys un gan un o'i ffans mwyaf, sef Michael Aaron Hughes.
Mae Michael yn gofyn i Dafydd sut y byddai'n hoffi cael ei gofio.
Dywedodd Dafydd Iwan: "Fel rhywun drïodd neud gwahaniaeth er gwell...Mae na lot o bethau dwi'n teimlo gallwn ni fod wedi neud yn well ond gobeithio mod i wedi gwneud gwahaniaeth yn y byd."
Heb oedi, fe ymatebodd Michael: "Wel, alla'i eich sicrhau chi eich bod chi wedi. Anhygoel, y pethau 'da chi wedi gwneud.
"Rhowch glap iddo fo. Gwych, da iawn - mi ydych chi wedi gwneud yn wych."
'Personoliaethau unigryw'
Roedd y broses o gastio'r Holwyr yn un drylwyr hefyd yn ôl y cynhyrchydd, Siwan Haf.
"O’dd hi’n broses castio drylwyr ac agored iawn, naethon ni’n fwriadol ddim gofyn i bobl ymgeisio fel petai, oeddan ni’n meddwl bod o’n bwysig dod i ‘nabod yr holwyr," meddai.
"O ran y broses, oeddan ni yn siarad lot efo unigolion, mewn grwpiau, mynychu digwyddiadau. Dwi’n meddwl mai’r ffordd yma oedd y ffordd ora’ i ddod i ‘nabod personoliaethau ein Holwyr amrywiol.
"O’dd gan bob un o'r Holwyr bersonoliaethau unigryw, amrywiol, sydd yn rhoi blas unigryw i’r gyfres ac i bob un pennod. Oherwydd bod ein gwesteion ni’n newid, ma’ ‘natur y cwestiyna yn newid a ma’u intrigue nhw ynglyn â be’ ma’ nhw isio w’bod a’u diddordeba’ nhw yn newid hefyd."
Mae'n hollbwysig cynnig llwyfan a phlatform i'r gymuned niwro-amrywiol yn ôl Siwan.
"Ma’n hollbwysig cynnig llwyfan a phlatfform i bob cymuned, ag yn enwedig ar ein sianel genedlaethol, dwi ddim yn meddwl bo’ ni wedi gweld y math yma o gyfres o’r blaen ar S4C. Ma’n hollbwysig i adlewyrchu ein cymuned Gymreig mewn pob ffyrdd a chlywed lleisiau ‘dan ni ddim yn eu clywed yn arferol ar S4C.
'Cwestiynau mawr, atebion gonest'
Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar "gwestiynau mawr ac atebion gonest". Nid oes gan y gwesteion unrhyw syniad o'r cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn iddyn nhw o flaen llaw.
Dafydd Iwan, Mike Phillips, Bronwen Lewis ac Elin Fflur ydy'r gwesteion a fydd yn cael eu holi gan yr Holwyr.
"Ma’r gwesteion yma yn dod o flaen yr holwyr ddim yn gw’bod, ddim wedi cael eu brîffio, ddim wedi cael dim math o gliw o’r cwestiynau sy’n mynd i gael eu holi," meddai Siwan.
'Fel ‘dan ni’n ddeud ar ddechra bob rhaglen, pan ma’r gwesteion yn isda yn y gadair yna, does ‘na ddim cwestiwn yn rhy fawr, does dim pwnc yn cael ei osgoi, all unrhyw beth ddigwydd, ag o’dd hynna yn wir.
"Oedd y cwestiynau i gyd yn creu gwahanol emosiwn o fewn y sgwrs a bob pennod, a dwi'n gobeithio y bydd y gynulleidfa adra yn routeio amdanyn nhw a wir yn cefnogi’r Holwr... ma'r gonestrwydd ‘na yn hollbwysig a dyna ydi asgwrn cefn yr holl gyfres."
'Profiad positif'
Fe wnaeth y cwmni cynhyrchu gynnal nifer o drafodaethau gyda dosbarthwr y fformat. Roedd ganddyn nhw adnodd o'r enw'r 'Beibl Fformat' oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth am y gyfres a'r dyletswyddau oedd angen eu cymryd gan y cwmni cynhyrchu.
"Ma’n gwesteion ni wastad yn mynd i fod yn broffesiynol ond fel o’dd y Beibl Fformat yn ddeud, os ydi’r wybodaeth allan efo’r cyhoedd, o’dd genna ni hawl i holi’r cwestiwn, ag yn amlwg, os oeddan nhw bendant, yn wirioneddol ddim isio ateb rwbath, ‘san nhw wedi ffeindio ffordd i osgoi ateb," meddai Siwan.
"Dwi’n meddwl ella bod y gwesteion wedi cael profiad anghyfarwydd ella iddyn nhw ond gobeithio profiad positif."
Roedd sicrhau fod pawb yn teimlo'n ddiogel yn ystod ffilmio'r gyfres, yn ogystal â phan y bydd yn cael ei darlledu, yn hollbwysig yn ôl Siwan.
"Oedd genna ni hwylusydd lles annibynnol i’r gyfres, felly ddim yn gweithio i Cwmni Da. Yn ogystal â ni fel cynhyrchwyr, ma’ genna ni’r opsiwn i’n Holwyr ni a’n gwesteion siarad efo hwylusydd lles yn ystod y cynhyrchu a pan fydd y gyfres yn cael ei darlledu a bod polisi drws agored hefyd gan Cwmni Da," meddai.