Cwest: Marwolaeth dyn 25 oed o Wynedd ym Malta yn 'ddamweiniol'
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae cwest wedi dod i’r casgliad bod marwolaeth dyn 25 oed o Wynedd ym Malta'r llynedd yn un ddamweiniol.
Bu farw Kieran Thomas Hughes, o Nant Gwynant, yn ystod oriau mân fore Gwener 11 Gorffennaf 2025.
Gydag aelodau o’i deulu a ffrindiau yn bresennol yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon ddydd Iau, dywedodd Elizabeth Dudley-Jones, dirprwy grwner ar gyfer gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, fod Mr Hughes yn “fab, efaill a ffrind gwych”.
Wrth siarad â’i deulu, ychwanegodd: “Roedd y cwest hwn yn un hynod ddirdynnol.”
Clywodd y llys ddatganiad tyst gan dad Mr Hughes, Alan Hughes. Dywedodd nad oedd yr awdurdodau ym Malta wedi bod o gymorth a’u bod wedi bod yn araf wrth gynnal ymchwiliad swyddogol.
“Mae eu diffyg cymorth wedi ychwanegu straen aruthrol at sefyllfa a oedd eisoes yn anodd iawn,” meddai.
Gwyliau ffrindiau
Clywodd y llys fod Mr Hughes wedi mynd ar ei wyliau am bum noson i'r ynys, gyda thri ffrind.
Roedd y grŵp yn aros yn y Cavalieri Art Hotel ar Ffordd Spinola, yn nhref St Julian's.
Roedd y grŵp wedi gadael y gwesty i fynd allan am swper ar nos Iau 10 Gorffennaf, ac yna ymweld â chlybiau, gan yfed “swm sylweddol” o alcohol.
Yn ôl adroddiad gan ynadon ymchwiliadol y wlad, roedd y criw wedi cyrraedd yn ôl yn y gwesty am 03.18.
Tri munud yn ddiweddarach, fe gyrhaeddodd Mr Hughes a’i ffrind, Osian Jones, eu hystafell ar y chweched llawr.
Yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r crwner, dangosodd lluniau CCTV y ddau ffrind yn cerdded tuag at yr ystafell mewn “cyflwr difrifol o feddwdod”, yn gafael yn ei gilydd.
Nid oedd “unrhyw arwyddion o ddrwgdeimlad rhyngddynt”, yn ôl adroddiad ynadon ymchwiliadol.
Dywedodd y derbynnydd oedd yn gweithio yn y gwesty ei fod wedi clywed sgrechian y tu allan am 04.15.
Fe aeth allan ac fe glywodd unigolyn yn dweud wrtho fod rhywun wedi disgyn o falconi.
Fe aeth y derbynnydd yn ôl i’r adeilad a galw’r tîm diogelwch.
Cyrhaeddodd swyddogion heddlu rhanbarth St Julian's o fewn 10 munud, gan adrodd bod unigolyn yn gorwedd ar y llawr y tu allan i’r gwesty, gydag anaf i'w ben ac yn "ymddangos yn ddifywyd".
Balconi
Daeth yr heddlu i’r casgliad fod Mr Hughes wedi disgyn o falconi un o ystafelloedd y gwesty.
Fe gafodd tîm meddygol ei alw i'r digwyddiad, ond roedd Mr Hughes wedi marw yn y fan a'r lle.
Gyda staff diogelwch y gwesty, fe aeth swyddogion i mewn i’r gwesty a chnocio ar ddrysau’r ystafelloedd oedd uwchben y lleoliad lle gafodd Mr Hughes ei ddarganfod, er mwyn ceisio canfod pwy oedd wedi disgyn.
Ar ôl cyrraedd ystafell 603 ar y chweched llawr, fe wnaeth swyddogion agor y drws gyda goriad, gan weld Osian Jones yn gorwedd yn ei wely.
Roedd drws y balconi ar agor. Ar ôl canfod pasbort Mr Hughes, fe wnaeth swyddogion ddod i'r casgliad bod y person yn y llun yn debyg i’r dyn oedd wedi disgyn.
Ar ôl deffro ar ôl 06.30, roedd yn ymddangos nad oedd Mr Jones yn ymwybodol o gwbl bod Mr Hughes wedi disgyn o’r balconi.
Yn ôl arbenigwyr, nid oedd unrhyw beth yn yr ystafell i godi amheuon.
Yn ystod y gwrandawiad, darllenodd y crwner sawl adroddiad gan yr awdurdodau ym Malta.
Yn ôl adroddiad y tocsicolegydd Gilbert Mercieca, roedd CCTV wedi dangos Mr Hughes yn disgyn o’r balconi am 04.09.
Roedd profion tocsicoleg ar ôl y farwolaeth yn dangos bod crynodiad “sylweddol” o alcohol yng ngwaed Mr Hughes.
Yn ôl y gwyddonydd fforensig, roedd marwolaeth Mr Hughes wedi ei hachosi gan drawma grym di-fin (‘blunt force trauma’), o ganlyniad i ddisgyn o uchder.
Roedd anafiadau trawma ar ochr dde ei gorff, ac roedd yr archwiliad fforensig yn awgrymu nad oedd yn ymwybodol ei fod yn disgyn, gan nad oedd arwyddion ei fod wedi ceisio torri ei gwymp.
Dywedodd y tocsicolegydd nad oedd ffordd o gadarnhau beth yn union ddigwyddodd yn ystod y 48 munud rhwng iddyn nhw gyrraedd eu hystafell a chwymp Mr Hughes, ond “efallai ei fod wedi mynd ar y balconi am ei fod yn teimlo'n wael neu angen awyr iach”.
“Yn drasig, fe ddisgynnodd oddi ar y balconi, gan arwain at golli ei fywyd,” meddai.
Marwolaeth ddamweiniol
Dywedodd Ms Dudley-Jones: “Rwyf wedi penderfynu y gallaf ond dod i gasgliad ar ffurf fer – sef damwain.
“Mae'n drasiedi lwyr. Ganwyd ef yn 2000, roedd yn ddyn rhyfeddol, ac nid oes dim byd arall y gallaf ei ddweud wrthych chi fel teulu.
“Ni allaf ddychmygu eich colled.
“Roedd yn fab, yn efaill, ac yn ffrind gwych, ac rwy'n falch eich bod wedi cael amseroedd mor gofiadwy gydag ef. Roedd y cwest hwn yn un hynod ddirdynnol.”
Clywodd y llys ddatganiadau tyst gan ei rieni, Nia ac Alan Hughes.
Dywedodd Ms Hughes fod ei mab yn beiriannydd meddalwedd â'i fusnes ei hun.
“Aeth ar wyliau am bum noson gyda ffrindiau, y rhan fwyaf ohonynt yn ffrindiau o'r ysgol gynradd,” meddai.
'Cariadus, gofalgar a ffyddlon'
Dywedodd Alan Hughes yn ei ddatganiad: “Roedd Kieran yn berson cariadus, gofalgar, hapus a ffyddlon, gyda synnwyr digrifwch gwych.
“Roedd yn hapus i helpu eraill, yn angerddol, yn gydwybodol ac yn weithgar iawn; disgrifiwyd ef gan ei gyfoedion fel un hynod alluog ac yn athrylith.
“Roedd hefyd yn rhedeg ei fusnes ei hun; yn un a gyflawnodd lawer, gyda dyfodol disglair o'i flaen. Roedd ei farwolaeth yn sioc enfawr."
Ychwanegodd: “Credaf mai damwain ydoedd, heb unrhyw fwriad i niweidio ei hun. Dim ond dyn ifanc yn mwynhau bywyd i'r eithaf.
“Rydym yn teimlo'r boen a’r hiraeth yn ein calonnau drwy'r dydd, bob dydd.”