Newyddion S4C

Y Taliban yn honni eu bod bellach yn rheoli Affganistan gyfan 

Sky News 06/09/2021
Maes Awyr Kabul

Mae’r Taliban yn honni eu bod bellach yn rheoli Affganistan i gyd ar ôl cymryd rheolaeth lwyr ar dalaith Panjshir, yr ardal olaf yn y wlad lle mae byddin y gwrthwynebiad. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban, Zabihullah Mujahid, bod yr ardal wedi ei “gorchfygu’n llwyr” a bod “nifer o bobl” wedi’u lladd tra bod y “gweddill wedi ffoi”.

Yn ôl Sky News, mae gwrthwynebwyr y Taliban, y National Resistance Front (NRF), wedi dweud bod honiad y Taliban o feddiannu Panjshir yn honiadau ffug. 

Panjshir oedd yr unig dalaith yn y wlad oedd heb ei chipio gan y Taliban ers iddynt gipio grym dros y mis diwethaf. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.