Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar fore Gwener, 3 Medi - o Gymru a thu hwnt.
Covid-19: Pryder am ddiogelwch athrawon wrth ddychwelyd i’r ysgol
Mae undebau athrawon Cymru wedi codi pryderon ynglyn â diogelwch staff wrth i ysgolion ail-agor yr wythnos hon. Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, mae’r cynnydd mewn achosion Covid-19 yng Nghymru yn bryderus. Ers symud i Lefel Rhybudd Sero ym mis Awst, does dim gofyn i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb yn yr ystafell ddosbarth nag aros o fewn ‘swigod’ dosbarth.
Heddlu'n saethu dyn yn farw wedi 'ymosodiad terfysgol' yn Auckland - The Mirror
Mae'r heddlu yn Seland Newydd wedi saethu dyn yn farw ar ôl iddo drywanu nifer o bobl mewn canolfan siopa yn Auckland. Dywed awdurdodau'r wlad fod yr ymosodiad yn un terfysgol a bod y dyn wedi ei ysbrydoli gan gredoau eithafol ISIS. Mae nifer o bobl yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Cais i droi hen ysgol yn lety moethus yn gwylltio trigolion yn Sir Conwy
Mae cynnig i droi hen ysgol yn Sir Conwy yn llety gwyliau wedi gwylltio trigolion lleol. Mae Ysgol Rowen wedi bod yn wag ers chwe blynedd, a nawr mae cais wedi’i gynnig i’w addasu’n llety moethus. Ond mae nifer yn dadlau bod gormod o gartrefi gwyliau yn yr ardal bellach.
Dwyn anifeiliad anwes i ddod yn drosedd benodol - The Evening Standard
Bydd dwyn anifeiliaid anwes yn dod yn drosedd benodol dan gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â dwyn cŵn. Daw hyn wedi i 2,000 o achosion o ddwyn cŵn gael eu hadrodd i'r heddlu yn 2020. Nid yw dwyn anifeiliaid anwes yn drosedd benodol ac mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried fel colli eiddo o dan Ddeddf Lladradau 1968.
Storm Ida: O leiaf 58 o bob wedi marw yn yr UDA - Sky News
Mae o leiaf 58 o bobl wedi marw yn yr UDA wrth i daleithiau yng ngogledd ddwyrain y wlad ymdopi gydag effeithiau Storm Ida. Mae 23 o'r marwolaethau yn New Jersey, 16 yn Efrog Newydd ag 11 yn Louisiana, gyda nifer o daleithiau eraill wedi eu heffeithio. Ida oedd y bumed storm fwyaf pwerus i daro'r UDA wrth iddi gyrraedd Louisiana ddydd Sul.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.