Covid-19: 'Pwysau ar athrawon' i wneud penderfyniadau am ddiogelwch
Covid-19: 'Pwysau ar athrawon' i wneud penderfyniadau am ddiogelwch
Mae undebau athrawon Cymru wedi codi pryderon ynglyn â diogelwch staff wrth i ysgolion ail-agor yr wythnos hon, gydag un undeb yn dweud fod "pwysau ar athrawon" i wneud penderfyniadau am ddiogelwch.
Yn ôl undeb NASUWT Cymru, mae angen ail-edrych ar reolau diogelwch mewn ysgolion ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y risg mewn ysgolion yn isel.
Dywedodd Neil Butler o NASUWT Cymru wrth Newyddion S4C: “Mae angen i Lywodraeth Cymru ail-ystyried cael gwared ar y rheol o wisgo mygydau mewn dosbarthiadau. Mae anghysondeb yma lle mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i staff ddefnyddio mwgwd mewn mannau caëdig, ond ddim mewn dosbarthiadau.”
Ychwanegodd Mr Butler fod pwysau ar athrawon i wneud penderfyniadau am ddiogelwch: "Ni all Gweinidogion roi’r cyfrifoldeb am ddiogelwch ar unigolion mewn ysgolion. Mae angen i ni ddysgu wrth y sefyllfa yn yr Alban dal ymlaen i’r canllawiau gweithredol cenedlaethol tan bod gennym syniad cliriach o’r goblygiadau o ddychwelyd i’r ysgol.”
Ers symud i Lefel Rhybudd Sero ym mis Awst, does dim gofyn i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb yn yr ystafell ddosbarth nag aros o fewn ‘swigod’ dosbarth.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, mae’r cynnydd mewn achosion Covid-19 yng Nghymru yn bryderus.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae angen i athrawon ac arweinwyr deimlo’n ddiogel o ran y disgyblion, ond o ran eu hunain hefyd”.
Ychwanegodd: “Ma ‘na newidiadau’n digwydd o ddydd i ddydd. Ry’n ni wedi gweld yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban o ran y cynnydd yn y nifer sydd â Covid a bod y dirprwy prif weinidog wedi nodi’r cyswllt rhwng hynny ac agor ysgolion".
Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, cofnodwyd pum marwolaeth yn gysylltiedig â’r feirws ddydd Iau a 2,275 o achosion yn ychwanegol.
Dywedodd Mr Roberts-Young bod dal gofid ynghylch llacio’r rheolau: “Gan ein bod ni mewn ysgol ac mewn lle cyfyng gyda niferoedd o blant, pobl ifanc, disgyblion a myfyrwyr yn ogystal a staff ysgol, mae’n gyfnod lle byddwn ni’n wyliadwrus iawn".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y risg mewn ysgolion yn isel: “Mae Cymru ar Lefel Rhybudd Sero ar hyn o bryd, sy’n golygu bod y lefel risg gyffredinol yn ein hysgolion yn isel.
Ychwanegodd: “Ni fydd angen i ysgolion weithredu mesurau ychwanegol oni bai bod y risgiau lleol yn wahanol i’r lefel risg genedlaethol hon. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’u hysgolion i benderfynu sut y dylid teilwra’r mesurau hyn".
Ond, dywedodd Prif Weithredwr UCAC fod hyn yn rhoi pwysau ar staff ysgolion: “Mae pwysau ar benaethiad i wneud penderfyniadau eithriadol o anodd".
Dywedodd: “Mae mor bwysig cael arweiniad yn ganolog. Bydd angen i awdurdodau gydweithio gyda ni hefyd".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn i ysgolion weithio ar eu fframwaith newydd erbyn Medi 20 er mwyn rhoi amser i ysgolion addasu i’r mesurau newydd.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y llywodraeth eu bod yn bwriadu darparu dros 30,000 o synwyryddion CO2 ar gyfer ysgolion, ynghyd ag ystyried defnyddio peiriannu osôn, i wella ansawdd aer mewn ystafelloedd dosbarth.
Dywedodd Undeb UCAC eu bod yn croesawu’r penderfyniad a bod y Llywodraeth yn gwrando ar eu pryderon.