Storm Ida: O leiaf 58 o bobl wedi marw yn yr UDA
03/09/2021
Storm Ida: O leiaf 58 o bobl wedi marw yn yr UDA
Mae o leiaf 58 o bobl wedi marw yn yr UDA wrth i daleithiau yng ngogledd ddwyrain y wlad ymdopi gydag effeithiau Storm Ida.
Mae 23 o'r marwolaethau yn New Jersey, 16 yn Efrog Newydd ag 11 yn Louisiana, gyda nifer o daleithiau eraill wedi eu heffeithio, yn ôl Sky News.
Ida oedd y bumed storm fwyaf pwerus i daro'r UDA wrth iddi gyrraedd Louisiana ddydd Sul.
Fe achosodd lifogydd ac o leiaf 10 tornado, gydag un ohonynt yn mesur gwyntoedd o 150 milltir yr awr.
Mae difrod gwerth biliynau o ddoleri wedi ei achosi.
Darllenwch fwy yma.