Esboniad: Faint o swyddi sy’n diflannu o brifysgolion Cymru?
Daeth cyhoeddiad ddydd Iau fod Prifysgol Bangor yn dechrau ar gyfnod o ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol fel rhan o gynllun i wneud o leiaf £15 miliwn o doriadau i’w chyllideb.
Mae sefyllfa ariannol y brifysgol yn y gogledd yn adlewyrchu heriau ehangach i’r sector addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt, gydag un brifysgol ar ôl y llall yn bwrw ati i dorri swyddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr hyn mae’n ei alw’n “heriau ariannol mawr sy'n wynebu'r sector.”
Dyma esboniad o’r hyn ydyn ni’n ei wybod am doriadau i’r sector yng Nghymru.
Swyddi sy’n diflannu
Wedi rhywfaint o gynnydd mewn lefelau staffio llawn a rhan amser dros flynyddoedd cyntaf y degawd hwn, mae prifysgolion yn torri ’nôl.
Roedd 645 yn llai o staff ym mhrifysgolion Cymru yn 2024-25 o’i gymharu â’r flwyddyn ganlynol, yn ôl data gan HESA, yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch.
Roedd y newidiadau mwyaf ym Mhrifysgol Caerdydd (250 swydd yn llai), Prifysgol De Cymru (205 swydd yn llai) a Phrifysgol Abertawe (140 swydd yn llai.)
Prifysgol Wrecsam oedd yr unig sefydliad yng Nghymru wnaeth gynyddu ei weithlu dros y flwyddyn honno.
Ar y cyfan mae bron i 22,000 yn gweithio yn ein prifysgolion. Ond mae arbenigwyr yn gytûn bod y rhagolygon ariannol yn ddu a bod disgwyl rhagor o doriadau.
Ochr yn ochr â’r newidiadau i swyddi mae cyrsiau wedi cael eu haddasu neu ei gollwng mewn rhai prifysgolion.
Prifysgol Aberystwyth
Mae dau rybudd bod toriadau ar y gweill wedi dod ym mis Tachwedd. Tua phythefnos cyn y cyhoeddiad am doriadau ym Mangor, daeth cyhoeddiad tebyg gan Brifysgol Aberystwyth.
Cyhoeddodd y brifysgol honno ei bod angen dod o hyd i £16m o arbedion drwy ailstrwythuro, gan olygu y bydd rhaid torri swyddi.
Yn ôl Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU), mae hyn yn golygu y gallai mwy na 150 o swyddi fynd - a hynny ar gefn diflaniad 150 o swyddi eraill yn y rownd flaenorol o ailstrwythuro.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, is-ganghellor y brifysgol, bod y sector addysg uwch yn wynebu “heriau digynsail” a bod rhaid i’r brifysgol “addasu”.
Y diffyg - a pham?
Fe nododd wyth prifysgol y wlad, gyda’i gilydd, ddiffyg ariannol o £81 miliwn yn 2024-25 yn ôl Llywodraeth Cymru. Mae Prifysgolion Cymru, y corff sy’n cynrychioli’r sector, wedi dweud bod y gwir diffyg yn £130 miliwn.
Gyda’r sefydliadau’n gwario cyfran fawr o’u harian ar staff, mae mesurau ailstrwythuro wedi targedu gostyngiad yn y gweithlu.
Rhan o’r rheswm yw’r drefn o ariannu prifysgolion, sy’n derbyn tua 55% o’u hincwm o ffioedd myfyrwyr.
Mae strwythur a chydbwysedd y myfyrwyr sy’n talu dod i brifysgolion Cymru wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl ymchwil i Senedd Cymru, mae “nifer y myfyrwyr o Gymru gyda darparwyr AU [addysg uwch] yng Nghymru wedi gostwng 9%” o gymharu yn 2024-25 â 2020-21 - cwymp fwy nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig.
Mae hyn yn golygu bod prifysgolion Cymru yn fwy dibynnol ar gyllid o ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, sydd - yn groes i fyfyrwyr o’r DU - ddim wedi eu cyfyngu gan gap ar ffioedd.
Yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer y myfyriwr o’r tu allan i’r DU a’r Undeb Ewropeaidd sydd yn astudio yng Nghymru o 2020-21 ymlaen - fe gwympodd y niferoedd yn sydyn wedi 2023-24 o achos cyfyngiadau ar fisas myfyrwyr gan Lywodraeth y DU.
Mae ffactorau eraill fel costau chwyddiant, costau rhedeg adeiladau a llawer o ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar y sefyllfa.
Cafodd yr heriau eu hamlinellu ym mis Mawrth mewn adroddiad gan Medr, y comisiwn addysg trydyddol, sy’n darparu ac yn dosrannu rhan o gyllid y prifysgolion.
Dywedodd y corff nad oes ‘na’r un brifysgol “yn wynebu risg bod methiant ariannol afreolus ar fin digwydd ar hyn o bryd,” ond rhybuddiodd bod gan “nifer o brifysgolion weithgareddau trawsnewid sylweddol i'w rhoi ar waith er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol.”
Beth mae’r undebau a’r llywodraeth yn ei ddweud?
Yn dilyn y cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd undeb yr UCU bod “ein prifysgolion mewn argyfwng go iawn.”
Mae’r undeb eisiau i’r llywodraeth, drwy Medr, ddarparu £45 miliwn yn ychwanegol mewn refeniw ar sail anghenion presennol y prifysgolion. Mae swyddogion hefyd yn galw am arian £30 miliwn i ariannu 5,100 o lefydd i fyfyrwyr iau sy’n mynd i golegau trydyddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o addysg uwch yng Nghymru, gyda’r panel eisoes wedi cyfarfod i drafod. Mae disgwyl i’r panel gyhoeddi adroddiad yn ystod haf 2027.
Wythnos yn ôl, fe gyhoeddodd y llywodraeth ei bod yn dilyn Lloegr ac yn cynyddu’r cap ar ffioedd myfyrwyr o £9,790 i £10,050 ar gyfer 2027-28, gan greu incwm ychwanegol o £18 miliwn i brifysgolion. Bydd benthyciadau myfyrwyr hefyd yn dilyn yr un patrwm.
“Rwy'n ymwybodol o'r heriau ariannol mawr sy'n wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru ac rwy'n benderfynol o helpu ein sefydliadau i reoli'r heriau hyn.
"Mae prifysgolion yn hanfodol i'n ffyniant economaidd, a'n hanes dinesig a diwylliannol ac maent yn gwneud gwaith pwysig i gyflawni ein huchelgais ar gyfer addysg, ymchwil a datblygu sgiliau,” meddai Cefin Campbell AS, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol.
Wedi sôn am gamau i gefnogwyr myfyrwyr yn ariannol, ychwanegodd: “Mae'r buddsoddiad hwn yn sector addysg uwch Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu sefydliadau wrth iddynt fynd i'r afael â chostau cynyddol, gan ddiogelu'r ddarpariaeth a'r profiad i fyfyrwyr.
“Ond rydym yn ymwybodol na all pethau barhau fel ag y maent. Mae ein hadolygiad parhaus o addysg uwch yn ystyried sut mae'r sector yn cael ei ariannu a'i drefnu i sicrhau bod y system yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus yn y dyfodol.”