Undeb yn rhybuddio y gallai dros 150 o swyddi fynd wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio arbed £16m
Undeb yn rhybuddio y gallai dros 150 o swyddi fynd wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio arbed £16m
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi bod angen dod o hyd i £16m o arbedion drwy ailstrwythuro, gan olygu y bydd rhaid torri swyddi.
Nid yw’r brifysgol wedi datgelu faint o swyddi sydd yn y fantol ond mae Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) wedi dweud y gallai mwy na 150 o swyddi fynd.
Mewn datganiad dywedodd yr Is-Ganghellor Jon Timmis y byddai Prifysgol Aberystwyth yn cyflogi llai o staff erbyn diwedd y broses ailstrwythuro.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis fod y sector addysg uwch yn wynebu “heriau digynsail” a bod rhaid iddyn nhw “addasu”.
“Does dim modd addasu prifysgolion i fod yn ariannol gynaliadwy heb wneud rhai penderfyniadau anodd iawn,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran cangen UCU y brifysgol: “Mae’r cyhoeddiad y bydd dros 150 o swyddi’n cael eu colli ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ein llethu a’n gwylltio ni fel cangen UCU y brifysgol.
“Daw hyn ar ôl colli mwy na 150 o gydweithwyr yn ystod y deunaw mis diwethaf yn y rownd flaenorol o ailstrwythuro.
“Bydd y rhan fwyaf o’r toriadau hyn yn effeithio ar staff addysgu ac ymchwil.
“Rydyn ni’n amcangyfrif na fydd rhwng chwarter a thraean o’n staff academaidd yn gweithio i’r brifysgol erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf.
“Ar ôl rowndiau blaenorol o golli swyddi, mae’r toriadau hyn yn ergyd drom i’n prifysgol, ein myfyrwyr a’n cymuned.”
Dywedodd y gangen fod ffigurau swyddogol yn dangos bod y brifysgol wedi colli mwy na 450 o swyddi rhwng 2014 a 2025, gan gynnwys 250 o swyddi academaidd a 200 o swyddi anacademaidd.