Newyddion S4C

Dwyn anifeiliad anwes i ddod yn drosedd benodol

Evening Standard 03/09/2021
Dau gi bach - Pixabay

Bydd dwyn anifeiliaid anwes yn dod yn drosedd benodol dan gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â dwyn cŵn.

Daw hyn wedi i 2,000 o achosion o ddwyn cŵn gael eu hadrodd i'r heddlu yn 2020.  

Nid yw dwyn anifeiliaid anwes yn drosedd benodol ac mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried fel colli eiddo o dan Ddeddf Lladradau 1968, yn ôl The Evening Standard.

Mae gweinidogion am newid y gyfraith er mwyn adlewyrchu difrifoldeb troseddau dwyn anifeiliaid anwes gan ystyried gofid emosiynol y gall ei achosi i'r anifeiliaid.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.