Heddlu'n saethu dyn yn farw wedi 'ymosodiad terfysgol' yn Auckland

Mae'r heddlu yn Seland Newydd wedi saethu dyn yn farw ar ôl iddo drywanu nifer o bobl mewn canolfan siopa yn Auckland.
Dywed awdurdodau'r wlad fod yr ymosodiad yn un terfysgol a bod y dyn wedi ei ysbrydoli gan gredoau eithafol ISIS.
Mae nifer o bobl yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad. Roedd y dyn gafodd ei saethu'n farw yn cael ei ddilyn yn agos gan yr heddlu 24/7 medd yr awdurdodau.
Mae prif weinidog y wlad, Jacinda Arden, wedi disgrifio'r ymosodiad fel un oedd wedi ei weithredu "gan unigolyn, nid gan unrhyw ffydd" a bod y dyn wedi ei ysbrydoli gan ideoleg dreisgar, yn ôl The Mirror.
Darllenwch y stori'n llawn yma.