Cip olwg ar benawdau'r bore

29/08/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Sul, 29 Awst, o Gymru a thu hwnt.

Afghanistan: Milwyr olaf y DU yn gadael y wlad wedi 20 mlynedd - Sky News

Mae milwyr olaf y Deyrnas Unedig yn Afghanistan wedi eu hedfan o faes awyr Kabul, gan ddod ag ymgyrch filwrol Prydain yn y wlad i ben ar ôl ugain mlynedd.  Gadawodd awyren olaf yr Awyrlu Brenhinol am 21:25 nos Sadwrn, medd Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth y DU, Ben Wallace.

Ymdrech i 'achub' y diwydiant gwlân yng Nghymru 

Mae Menter Môn wedi lansio prosiect cymdeithasol newydd i ychwanegu gwerth at wlân.  Nod ‘Gwnaed â Gwlân’ yw dod â phartneriaid o bob cwr o’r wlad ynghyd i ychwanegu gwerth, a gwireddu potensial gwlân fel adnodd cynaliadwy ac adnewyddadwy.

Awdurdodau’n apelio am ofal dros Ŵyl y Banc

Mae awdurdodau ar draws Cymru yn gofyn i’r cyhoedd i gymryd gofal a chadw Cymru'n daclus ar drothwy Gŵyl y Banc.  Dyma yw Sul Gŵyl y Banc cyntaf Cymru ers i’r wlad symud i Lefel Rhybudd Sero, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau wedi eu codi, gan gynnwys ail-agor busnesau sy’n cynnwys clybiau nos.

Achubwr mynydd angen codi arian ‘angenrheidiol’

Mae achubwr mynydd wedi penderfynu dathlu ei ben-blwydd yn 35 oed drwy badl-fyrddio 35 milltir rhwng camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, er mwyn casglu arian ar gyfer elusen.  Fe fydd Richard Doyle o Lyn Ebwy yn codi’r arian “angenrheidiol” sydd ei angen ar Dîm Achub Mynydd Bannau Canolog er mwyn gallu prynu offer meddygol sy’n hollbwysig i waith y tîm.

Corwynt Ida yn agosáu at arfordir Louisiana

Mae rhybuddion bod Corwynt Ida yn fwy peryglus nag o'r blaen wrth iddo symud tuag at arfordir talaith Louisiana yn yr UDA.  Mae'r corwynt bellach wedi ei uwchraddio i Gategori 4, gyda disgwyl iddo gyrraedd y tir yn ddiweddarach.

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.