Afghanistan: Milwyr olaf y DU yn gadael y wlad wedi 20 mlynedd
Afghanistan: Milwyr olaf y DU yn gadael y wlad wedi 20 mlynedd
Mae milwyr olaf y Deyrnas Unedig yn Afghanistan wedi eu hedfan o faes awyr Kabul, gan ddod ag ymgyrch filwrol Prydain yn y wlad i ben ar ôl ugain mlynedd.
Gadawodd awyren olaf yr Awyrlu Brenhinol am 21:25 nos Sadwrn, medd Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth y DU, Ben Wallace.
Daw hyn wedi i'r awyren olaf a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer cludo sifiliaid Afghanistan o'r wlad adael ar nos Wener, cyn 31 Awst - y terfyn a gafodd ei osod gan yr Arlywydd Joe Biden ar gyfer tynnu lluoedd yr UDA o'r wlad.
Mae Ymgyrch Pitting bellach ar ben, gyda 15,000 o bobl wedi eu cludo o Kabul mewn pythefnos, gan gynnwys 5,000 o ddinasyddion y DU a dros 8,000 o sifiliaid Afghanistan a weithiodd i'r DU.
Ymhlith y sawl a adawodd y wlad oedd 2,200 o blant fel rhan o'r ymgyrch roedd 2,200 o blant - yr ifancaf ohonynt ond yn ddiwrnod oed, yn ôl Sky News.
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi disgrifio ymadawiad milwyr y DU fel "diweddglo i orchwyl na welwyd ei debyg yn ystod ein hoes".
Darllenwch y diweddaraf yma.
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn