Ffion Dafis eisiau 'gwthio ffiniau' yn broffesiynol a'n bersonol mewn swydd newydd

Ffion Dafis eisiau 'gwthio ffiniau' yn broffesiynol a'n bersonol mewn swydd newydd

Wrth nesáu at y flwyddyn newydd, mae'n gyfle i ddechrau pennod newydd - a hynny'n sicr yn wir i'r gyflwynwraig, awdures ac actores Ffion Dafis wrth iddi baratoi i gychwyn ar ei gwaith fel Cyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Theatr Bara Caws. 

Gan olynu Betsan Llwyd, mae hi'n dweud bod cael cynnig y swydd yn "gymaint o fraint" a'i bod eisiau gosod ei stamp ei hun tra hefyd yn sicrhau bod y cwmni'n parhau i deithio a gwthio ffiniau. 

"Mae Bara Caws yn gwmni dwi wedi dilyn ers o'n i'n hogan ifanc iawn," meddai.

" O'n i'n ifanc iawn iawn pan weles i un o'r cynyrchiadau cynta' o'dda nhw'n gwneud, sef 'Swmba' ac o'n i ddim i fod i'w gweld hi.  

"O'dd hi'n 18 oed a dwi'n meddwl 'mod i tua 15 ar y pryd a nes i sneakio mewn i gefn Canolfan Penrhosgarnedd ym Mangor!

"Bob tro ti'n mynd i rywbeth Bara Caws, mae'r lle yn llawn dop achos mae o'n ddigwyddiad yn y llefydd bach cymunedol 'ma.  Dwi, heb os, eisiau gwneud yn siŵr mai teithio sy'n dal i fod yn graidd y cwmni.

"Mae'n heriol, yn amlwg, achos mae'r sector theatr yn mynd drwy doriadau enbyd fel bob dim yn y celfyddydau.  Ond mae hynny'n wir ers degawdau.

"Ond lle'r theatr - yn enwedig y theatr yng Nghymru - ydy ffeindio ffyrdd newydd. Mae'n rhaid meddwl y tu allan i'r bocs. 

"Mae eisiau bod yn gynhwysol, mae eisiau bod yn amrywiol, ac yn sicr eisiau adlewyrchu be' sy'n digwydd yn y gymdeithas Gymreig 'da ni'n byw o'i mewn."

'Gwthio ffiniau'

Wrth edrych tua'r dyfodol mae Ffion eisiau gweld cwmnïau fel Bara Caws yn arwain y ffordd.

"Mae theatr yn newid," meddai.  "Mae pwrpas theatr wastad ydy bod yr un fath - i dd'eud stori a chreu adloniant," meddai.

"Ond dwi'n greidiniol fod tamad o theatr i fod i gael ei bwrpas - i adlewyrchu ac i arwain y naratif yma yng Nghymru.

"Dwi ddim eisiau esgymuno dim un person, achos dwi'n gw'bod o ran byw yng nghefn gwlad, be' mae Theatr Bara Caws yn meddwl i bobl.

"Dwi ddim yn mynd i fod yn gwneud petha' sy'n mynd i fod yn difrïo neb. Be' dwi eisiau gwneud ydy gwthio ffiniau, ond dod a phobl efo fi, a 'dwi'n meddwl bod y balans yna'n bwysig iawn." 

Er yr heriau ariannol ac yn y blaen, mae hi'n credu bod byd y theatr mewn lle da, a hynny'n bennaf oherwydd y talent sydd yng Nghymru.

"Alla' i'm d'eud pa mor falch ydw i o sefyllfa 'sgwennu yng Nghymru ar hyn o bryd," meddai.

"Oherwydd fy swydd fel cyflwynydd rhaglen gelfyddydol Radio Cymru, 'dwi 'di cael y fraint yn fanno hefyd o gyfweld a gymaint o 'sgwennwyr a gw'bod be' sy'n digwydd yn ddiwylliannol ac yn gelfyddydol yma yng Nghymru.

"Mae'n 'sgwennwyr ni heb eu hail ac mae'r themâu sy'n dod fyny yn themâu heriol a 'dwi eisiau rhoi'r lleisiau amrywiol 'ma ar y llwyfan."

'Wrth fy modd'

A hithau'n actores, yn gyflwynydd ac awdures, mae Ffion yn bwriadu rhoi'r gorau i hynny i gyd rŵan er mwyn canolbwyntio ar ei rôl newydd fel cyfarwyddwr artistig.  Er nad oedd yn benderfyniad hawdd, meddai, mae'n dweud ei bod hi'n bwysig i barhau i wthio ffiniau personol wrth fynd yn hŷn.

"Mae o'n cymryd ychydig o guts i'w wneud o," meddai.

"'Swn i'n ddigon hawdd fod wedi d'eud 'www falle ddim'.  Ond o'n i'n teimlo 'mod i 'di bod yn y byd celfyddydol, y byd creadigol, yma yng Nghymru ers degawdau bellach - ac wedi pigo'r sgiliau cywir, dwi'n teimlo, ar ei gyfer o.

"Ond o'n i o fewn trwch blewyn i beidio. Dwi'n falch, yn amlwg, 'mod i wedi gwneud y penderfyniad.  Achos 'dwi 'di peidio mynd am betha' yn y gorffennol oherwydd y peth 'ma sy'n tynnu ni'n ôl fel merched - ac mae o wedi gwneud ers degawdau.

"Ond, o rywle, mi ddoth ac yn amlwg 'dwi wrth fy modd!"

Wrth olynu Betsan Llwyd, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig efo Bara Caws ers 13 o flynyddoedd, mae Ffion yn dweud bod 'na ddyled fawr i'w rhagflaenydd.

"Mae'r ffordd 'da ni'n mynd i edrych ar gyfnod Betsan, mae o'n gyfnod cynhyrchiol, mae o'n gyfnod llewyrchus iawn iawn iawn," meddai.

"Fydd fy sioe gynta' i ddim tan Gwanwyn 2027.  Mae Betsan yn mynd i fod yn cyfarwyddo ambell i beth dros y flwyddyn nesa'.  Hefyd, 'da ni'n mynd i fod yn cyd-gyfarwyddo ambell beth, ac mi fydda' i'n cyfarwyddo pethau 'dwi wedi eu hetifeddu ganddi hi.

"Faswn i'n licio diolch o waelod calon am be' ma' Betsan wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Mae hi wedi gadael y lle mewn lle da i mi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.