Y canwr Chris Rea wedi marw
Mae'r canwr Chris Rea wedi marw yn 74 oed.
Yn wreiddiol o Middlesborough, cafodd y canwr lwyddiant gyda sawl cân, ac mae'n bur debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei gân Nadoligaidd Driving Home For Christmas.
Cafodd ddiagnosis canser y pancreas chwarter canrif yn ôl, ac yna yn 2016, dioddefodd strôc.
Daeth Rea i amlygrwydd yn y saithdegau a'r wythdegau gyda chaneuon fel Fool (If You Think It’s Over), Let’s Dance a The Road To Hell.
Dywedodd datganiad ar ran ei deulu: "Bu farw'r canwr a chyfansoddwr Chris Rea yn gynharach ddydd Llun mewn ysbyty wedi salwch dros gyfnod byr."
Nododd y teulu iddo farw yn heddychlon gyda'i deulu o'i amgylch.
Cafodd albwm cyntaf Chris Rea Whatever Happened To Benny Santini? ei gyhoeddi yn 1978.
Cafodd y gân Fool (If You Think It’s Over) ei henwebu ar gyfer gwobr Grammy.
Erbyn i'w wythfed albwm gael ei gyhoeddi, sef On The Beach, roedd yn seren yn y Deyrnas Unedig ac ar hyd a lled Ewrop, ac America.
Pan gafodd Road To Hell ei gyhoeddi yn 1989, fe oedd un o artistiaid unigol mwyaf y DU.
Llun: Andrzej Barabasz