Cyhoeddi enwau dau fu farw ar ôl gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn
Cyhoeddi enwau dau fu farw ar ôl gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau dau ddyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw ychydig cyn 21:30 nos Sadwrn, 20 Rhagfyr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori Isuzu a oedd yn casglu cerbydau, a VW Golf.
Bu farw gyrrwr y lori Isuzu, Matthew Hardy, 34 oed, o Bwllheli, yn y fan a'r lle ac mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan Swyddogion Cyswllt Teuluol sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Bu farw gyrrwr y VW Golf, Daniel Atkinson, 40 oed, o Flaenau Ffestiniog, yn y fan a'r lle hefyd. Mae swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig wedi cysylltu â'i deulu.
Roedd ffordd yr A487 ar gau am bron i ddeuddydd wedi'r digwyddiad, cyn iddi ailagor brynhawn Llun.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Mae'r IOPC wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn y gyfeiriadaeth honno ac y byddan nhw'n ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf.
Nid yw'r rheswm dros gyfeirio'r mater at yr IOPC wedi'i ddatgelu hyd yma.
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Katie Davies o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r ddau ddyn.
"Rydym yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."
Ychwanegodd: "Hoffem ddiolch i'r gymuned leol a modurwyr am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 25001038987.
