Sir Benfro: Carchar i ddyn a ymosododd ar swyddogion yr heddlu
Mae dyn a ymosododd ar swyddogion yr heddlu yn Sir Benfro wedi ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd a hanner.
Plediodd Alexander Campbell, 30 oed, o Gil-maen ger Penfro i un cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol a dau gyhuddiad o achosi gwir niwed corfforol.
Fe ddioddefodd y ddau blismon, PC160 Thomas a PC1338 Jones, ymosodiad wrth geisio arestio Campbell am ymosodiad domestig yn Aberdaugleddau ar 20 Tachwedd.
Roedd un cyhuddiad o wir niwed corfforol am ymosod ar ddioddefwraig yr ymosodiad domestig, a’r ddau gyhuddiad arall am ymosod ar yr heddlu.
Fe ddioddefodd dioddefwraig yr ymosodiad domestig anaf i'w hwyneb a chwydd i’r llygad.
Fe ddioddefodd PC160 Thomas glwyf ar ei ben a oedd angen pwythau, ac fe ddioddefodd PC1338 gleisiau a chwydd.
Fe gafodd Alexander Campbell ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar am y niwed corfforol difrifol.
Fe gafodd ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar yr un am y ddwy drosedd arall, i’w treulio yn gydamserol â’r ddedfryd gyntaf.
Roedd hefyd wedi mynd yn groes i delerau dedfryd o chwe mis o garchar oedd wedi ei gohirio, a bydd rhaid iddo dreulio’r cyfnod hwnnw yn y carchar ar ben y ddedfryd dwy flynedd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Dro Dro Louise Harries: "Roedd hwn yn ymosodiad treisgar ar swyddogion oedd yn gwneud eu swydd.
"Rydym yn croesawu'r canlyniad yn y llys a'r ddedfryd a fydd yn diogelu'r ddioddefwraig rhag niwed pellach.
"Mae hefyd yn pwysleisio na chaiff ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys eu goddef, a byddwn yn gweithredu'n gadarn yn ei erbyn."