Newyddion S4C

Achubwr mynydd angen codi arian ‘angenrheidiol’

29/08/2021
Achubwyr mynydd

Mae achubwr mynydd wedi penderfynu dathlu ei ben-blwydd yn 35 oed drwy badl-fyrddio 35 milltir rhwng camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, er mwyn casglu arian ar gyfer elusen.

Fe fydd Richard Doyle o Lyn Ebwy yn codi’r arian “angenrheidiol” sydd ei angen ar Dîm Achub Mynydd Bannau Canolog er mwyn gallu prynu offer meddygol sy’n hollbwysig i waith y tîm.

Daw hyn yn sgil y twf sylweddol yn nifer o bobl sydd wedi penderfynu aros adref a pheidio teithio dramor ar gyfer eu gwyliau eleni.

Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o ddamweiniau ar fynyddoedd ledled Cymru.

O ganlyniad, fe gychwynnodd Mr Doyle ymgyrch i gasglu arian, gyda’r bwriad o brynu diffibriliwr, gan sicrhau bod cyfarpar addas ym mhob un o dri cherbyd achub y gwasanaeth achub.

Wrth siarad â Newyddion S4C fe ddywedodd: “Roedd rhaid i mi wneud rhywbeth roeddwn i’n gallu ei alw’n ‘epig’ er mwyn gallu codi’r swm o arian oedd angen arnom ni i fforddio diffibriliwr ar gyfer ein cerbyd rheoli.

“Mae lot o bobl wedi dringo mynyddoedd fel byset ti’n disgwyl... ond mae gwneud rhywbeth ‘epig’ fel padl-fyrddio’r gamlas yn rhywbeth sydd angen ar y tîm", meddai.

Image
Richard Doyle
Richard Doyle yn padl-fyrddio.

‘Cyfnod prysur iawn’

Yn ôl Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Bannau Canolog, Penny Brockman, mae cyfyngiadau teithio Covid-19 wedi cyfrannu at gyfnodau “prysur, prysur iawn”.

Yn y gorffennol byddai’r tîm wedi disgwyl ymateb i tua 70 i 80 o alwadau brys yn flynyddol ledled y Bannau Brycheiniog, Y Cymoedd, Caerdydd, a phellach.

Wedi iddynt dderbyn 83 o alwadau brys hyd yma eleni, bu disgwyl iddynt ymateb i dros 100 erbyn diwedd y flwyddyn.

Bu galwadau i gael diffibriliwyr ar gael ar fynyddoedd ledled Cymru yn sgil y cynnydd yn yr ymwelwyr, gyda’r disgwyl i’r Wyddfa fod yn un o fynyddoedd cyntaf y DU i gynnig mynediad cyhoeddus 24 awr i offer achub bywyd.

Dywedodd Ms Brockman: “Mae digwyddiadau lle mae angen diffibriliwr yn anghyffredin ond mae’r effaith yn helaeth.

“Gall mynediad i ddiffibriliwr achub bywyd", mynnodd.

Yn dilyn cefnogaeth gymunedol, fe fydd y tîm yn derbyn diffibriliwr gan gwmni lleol, ac fe fydd unrhyw swm ychwanegol sy’n cael ei godi yn mynd tuag at offer meddygol ychwanegol.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl dîmau achub ledled y Parc Cenedlaethol am y gwaith maent yn gwneud trwy gydol y flwyddyn".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.